Saith swydd yn mynd ym Mharc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog
- Cyhoeddwyd

Bydd saith o bobl yn colli eu swyddi ym Mharc Cenedlaethol y Bannau Brycheiniog yn rhan o gynllun i arbed £650,000 mewn dwy flynedd.
Mae un person wedi cytuno i adael o'i wirfodd, a chwech arall wedi eu diswyddo'n orfodol.
Ddydd Gwener (Chwefror 7), fe wnaeth Awdurdod y Parc gyfarfod er mwyn cymeradwyo'r diswyddiadau, a thrafod cyfyngu ar ragor o wasanaethau i ymdopi â thoriad o 13.06% mewn nawdd.
Yn ogystal â'r diswyddiadau, bydd llai o arian ar gael i'r Gronfa Datblygiadau Cynaladwy a bydd toiledau cyhoeddus Llanddewi Nant Honddu yn cau.
'Trafodaethau'n parhau'
Fe gafodd y penderfyniad i gau Canolfan Dwristiaeth y Fenni ei gymeradwyo, hefyd. Er hyn, mae trafodaethau'n parhau i geisio cynnig darpariaeth arall i ymwelwyr yno.
Mae'r Awdurdod yn parhau i drafod cael gwared ar wasanaeth Bws y Bannau ac yn cynnal asesiad ar hyn o bryd.
Meddai Prif Weithredwr yr Awdurdod, John Cook, cael gwared ar swyddi oedd un o'r penderfyniadau mwya' heriol i'r Awdurdod mewn blynyddoedd diweddar.
Ychwanegodd: "Mae hi wedi bod yn gyfnod anodd i'r Awdurdod. 'Dy ni'n deulu clos a chymharol fychan, a bydd pob diswyddiad yn ergyd ledled yr Awdurdod. Ry'm ni wedi gwneud nifer o benderfyniadau anodd er mwyn cyrraedd y gyllideb eleni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2013