Heroin: Wyth mlynedd o garchar
- Cyhoeddwyd

Mae dyn o Gaerdydd wedi ei garcharu am wyth mlynedd ar ôl pledio'n euog yn Llys y Goron Casnewydd i droseddau yn ymwneud â dosbarthu heroin yn ne Cymru.
Cafodd Raja Adib Sarwar, 46 oed o Court Road, Grangetown, ei gyhuddo o gynllwynio i ddosbarthu cyffuriau, yn ogystal â bod yn berchen ar eiddo troseddol, ac ymdrechu i guddio eiddo troseddol.
Cafodd Sarwar ei arestio fel rhan o Ymgyrch Balinese gan Heddlu De Cymru - ymgyrch oedd yn targedu troseddwyr oedd yn cael eu hamau o fod yn gysylltiedig â dosbarthu heroin ar raddfa eang.
Bron £7,000 mewn bag
Ym mis Gorffennaf y llynedd fe ddaeth swyddogion yr heddlu o hyd i 373 gram o heroin, oedd werth £37,260, wrth iddo gael ei gludo o Sheffield i ardal de Cymru.
Cafodd dyn arall ei garcharu am dair blynedd am gael y cyffuriau hyn yn ei feddiant.
Yna ym mis Hydref fe gafodd Mr Sarwar ei arestio ger Parc Manwerthu Lecwydd yng Nghaerdydd gyda £6975 o arian parod mewn bag.
Yr wythnos ddiwethaf fe blediodd yn euog yn Llys y Goron Casnewydd i'r cyhuddiadau yn ei erbyn, gan cynnwys dosbarthu cyffuriau dosbarth A oedd yn gysylltiedig â'r heroin gafodd ei ddarganfod gan yr heddlu ym mis Gorffennaf.
Yn ôl y Barnwr Neil Bidder Q.C., roedd Sarwar yn ''droseddwr proffesiynol'' ac yn un o brif drefnwyr cludiant heroin i ardal de Cymru.
Fe glywodd y llys fod Sarwar wedi elwa dros £183,000 o'i weithgareddau troseddol, ac fe gafodd orchymyn i ad-dalu £69,291 - cyfanswm ei asedau - o fewn tri mis.
'Targedu gangiau'
Fe ddywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Dorian Lloyd o Heddlu De Cymru:
''Rydym yn trin y math yma o droseddu yn ddifrifol iawn, ac rydym yn gwneud ein gorau i adnabod, targedu a dod â gweithgareddau gangiau troseddol o'r fath i ben.
"Mae carcharu Sarwar yn dystiolaeth o'r ffocws yma, ac fe fyddwn yn parhau yn ddiflino i dargedu unigolion sydd yn ymwneud â gangiau troseddol, a rhwystro effeithiau'r gangiau hyn ar gymunedau de Cymru.''
Cafodd Sarwar ei garcharu yn flaenorol am ddwy flynedd a thri mis yn 1993 am ladrata a throseddau yn ymwneud â gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Yn 2008 fe gafodd ei ddedfrydu i chwe blynedd o garchar am ddosbarthu heroin, a bod â heroin yn ei feddiant gyda'r bwriad o'i ddosbarthu.