PIP: Llywodraeth Cymru ddim am geisio adennill costau
- Cyhoeddwyd

Fydd Llywodraeth Cymru ddim yn ceisio adennill y gost o dalu am lawdriniaethau i fenywod gafodd fewnblaniadau PIP diffygiol o gwmnïau cosmetig preifat.
Maen nhw'n dadlau nad yw hi'n ymarferol iddyn nhw wneud hynny. Hyd yma, mae'r llywodraeth wedi gwario tua £1.2 miliwn o bunnau ar y triniaethau.
Mi wariodd y llywodraeth £819,000 yn 2012-13 ac maen nhw yn rhagweld y bydd yn rhaid iddyn nhw dalu £422,000 arall erbyn diwedd 2013-14.
Ar hyn o bryd mae 603 o fenywod wedi eu cyfeirio at gael triniaeth, 300 wedi eu trin yn barod a 48 wedi cael dyddiad ar gyfer y llawdriniaeth neu yn disgwyl dyddiad.
Cafodd y mewnblaniadau gan gwmni Ffrangeg Poly Implant Protheses eu gwahardd yn 2011 ar ôl iddi ddod i'r amlwg bod yna gel silicon diwydiannol ynddyn nhw.
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Rydyn ni wedi edrych ar y posibilrwydd o adennill y gost yn gyfreithiol oddi wrth y darparwyr preifat perthnasol ac wedi darganfod yn gyfreithiol nad yw hyn yn ymarferol.
'Chwyddo fel pelen'
"Mae'r costau wedi golygu bod menywod sydd wedi eu heffeithio gyda sgandal PIP wedi medru cael y driniaeth anghenrheidiol. Mae'r cleifion wedi eu trin yn ol y galw clinigol."
Cafodd Rebecca Little o Crosskeys ei mewnblaniadau PIP hi wedi eu tynnu allan gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mi oedd hi wedi sylwi bod ganddi lympiau yn eu bronnau.
"Oedd e wedi mynd trwy'r nod lymff a bob tro o'n i yn gwneud unrhyw ymarfer corff mi fyddai'r nod lymff yn chwyddo fel pelen. Mi oedd e yn boenus iawn.
"Ar ol iddyn nhw dynnu'r mewnblaniadau mas ddes i i wybod bod y mewnblaniad chwith gyda gwaed yn y gel. Dyna pan mae'r mewnblaniad yn dechrau gollwng y sylwedd sydd tu fewn iddo fe."
Mae'n dweud fod y profiad wedi bod yn un brawychus.
"Peidio gwybod beth sydd yn mynd trwy dy gorff di a'r effaith hir dymor yw'r peth gwaethaf. Dw i'n dal i deimlo yn ddig iawn. Dw i'n teimlo dyle San Steffan fod wedi gorfodi'r cwmniau i weithredu ac mi ddylen nhw fod wedi eu dwyn i gyfrif.
Sgandal arall?
Mae Mark Harvey, o'r cwmni cyfreithiol Hugh James yn cynrychioli tua 1,000 o fenywod sydd yn trio hawlio iawndal.
Mae'n dweud bod yna fwlch yn y ddeddfwriaeth sydd yn golygu nad oes yn rhaid i gwmniau preifat dalu i gael gwared a'r mewnblaniadau a rhoi rhai newydd yn eu lle.
"Fy mhryder i yw nad oes na ddim wedi newid ers y 1990au a'r 2000au pan y digwyddodd y sgandal ma. Dyna pam mae angen i'r llywodraeth- yng Nghymru ac yn Lloegr- gau'r bwlch yn y ddeddfwriaeth cyn gynted a phosib."
Yn Lloegr mae'r gwasanaeth iechyd yn talu i gael gwared a'r mewnblaniadau.
Yn 2012-13 roedd 8,801 o fenywod mewn trafodaethau gyda'r GIG yn Lloegr. 1,053 o rhain fydd yn cael gwared â mewnblaniadau. Bydd 403 yn cael y llawdriniaeth yma trwy'r gwasanaeth iechyd.
Mae Llywodraeth Prydain wedi dweud y byddan nhw hawlio costau gan y cwmniau preifat trwy gynllun Injury Cost Recover. Ond fyddan nhw ddim yn cymryd camau yn erbyn y cwmniau preifat i gael eu harian yn ol am y llawdriniaethau.
Mwy o rheolau
Mae hyn yn golygu y bydd GIG Lloegr yn derbyn arian os y bydd cais am iawndal yn llwyddiannus.
Dywedodd llefarydd ar ran yr adran iechyd yn Lloegr: "Yn dilyn y sgandal yma, mi gyhoeddon ni ein cynlluniau i wella'r diwydiant cosmetig. Rydyn ni eisiau cyflwyno hyfforddiant newydd a chyfreithiau i amddiffyn y cwsmer."
"Rydyn ni hefyd eisiau dulliau diogelu ar gyfer pobl sydd yn cael eu trin yn breifat pan mae pethau yn mynd o'i le. Mae grŵp wedi ei sefydlu sydd yn cynnwys arbenigwyr fydd yn edrych ar y mater yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd6 Ionawr 2012