Gêm Uefa yng Nghaerdydd

Bydd gêm Super Cup Uefa yn cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Awst 12.
Ynddi mae enillwyr Cynghrair y Pencampwyr yn erbyn y tîm ar frig Cynghrair Ewropa.
Y deiliaid yw Bayern Munich faeddodd Chelsea ym Mhrâg y llynedd.
"Rydyn ni ar ben ein digon," meddai Prif Weithredwr Cymdeithas Pêl-droed Cymru Jonathan Ford.
"Bydd rhai o dimau gorau Ewrop yn dod i'r brifddinas.
"Eisoes mae Caerdydd wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau trawiadol ym myd y campau ond hon fydd gêm gynta' Uefa.
"Ond nid hon fydd yr ola'."
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd economi Caerdydd a'r Cylch ar ei hennill o gannoedd o filoedd o bunoedd.