Mewnfudo: saith yn cael eu harestio
- Published
Mae saith wedi cael eu harestio ar amheuaeth o droseddau mewnfudo mewn cyrchoedd yn Abergele, Merthyr Tudful, Aberdâr a Chaerdydd.
Aeth swyddogion y Swyddfa Gartref i bedwar busnes a holi unigolion a oedd ganddyn nhw'r hawl i fod ym Mhrydain.
Ar Chwefror 12 yng Nghaerdydd aeth swyddogion i fwyty Tsieinïaidd Dragon Court ym Mharc Lecwydd.
Wrth iddyn nhw fynd i mewn i'r bwyty, fe geisiodd dau ddyn ffoi ond fe gawson nhw'u dal.
Torri rheolau
Roedd pedwar yno yn torri rheoli mewnfudo - dynes 25 oed o Nepal oedd wedi torri rheolau ei fisa fel myfyrwraig, dyn 30 oed Tsieinïaidd oedd yn gweithio yno'n anghyfreithlon, a dynes 27 oed a dyn 51 oed, y ddau o Tsieina oedd yma'n anghyfreithlon.
Ar Chwefror 13 aeth swyddogion i fwyty indiaidd Spice Merchant ar Stryd y Capel, Abergele, am 7yh.
Fe gafodd dyn 34 oed o Bangladesh ei arestio am aros yma'n hwy na thelerau ei fisa.
Ar Chwefror 14 am 6yh aeth swyddogion i fwyty Indiaidd Saffron ar Heol Caerdydd, Aberdâr.
Fe gafodd dyn 29 oed o Bacistan, oedd wedi aros yn hwy na thelerau ei fisa, ei arestio.
Fe ddaethpwyd o hyd i'w eiddo a'i wely mewn swyddfa y tu ôl i'r gegin.
Yr un noson am 8.30yh fe aeth swyddogion i fwyty tecawe Wok U Like ar Stryd Fawr Merthyr Tudful ac arestio dynes Tsieinïaidd 39 oed oedd yn gweithio yno'n anghyfreithlon.
£10,000
Mae'r dynion arestiwyd yn Aberdâr ac Abergele a'r ddau o Tsiena arestiwyd yng Nghaerdydd yn y ddalfa ac yn aros i gael eu symud o Brydain.
Yn y cyfamser, mae'r tri oedd yn gweithio yma'n anghyfreithlon wedi cael eu rhyddhau tra bod eu hachos yn cael ei ystyried.
Cafodd y pedwar busnes rybudd y gallen nhw wynebu cosbau hyd at £10,000 fesul gweithiwr anghyfreithlon a gyflogwyd.
Fe fyddan nhw'n cael eu cosbi onibai eu bod yn gallu dangos tystiolaeth eu bod wedi cynnal profion hawl-i-weithio cywir.
Dywedodd Richard Johnson o dîm y Swyddfa Gartref yng Nghymru fod "neges i gyflogwyr yng Nghrymu sy'n dewis defnyddio llafur anghyfreithlon yn glir, hynny yw fe fyddan nhw'n wynebu cosb drom."