Cyhuddo dau wedi ymosodiad ger Afon Taf

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â digwyddiad ger Afon Taf yn Grangetown, Caerdydd, ddydd Sul.

Mae Martin Edwards, 43 oed o Gaerdydd, wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio, a Gary Pincott, 55 oed o'r Barri, wedi cael ei gyhuddo o geisio llofruddio ac o ymosod.

Bydd y ddau yn mynd o flaen ynadon yn y brifddinas ddydd Mercher.

Cafodd yr heddlu eu galw i'r lleoliad ger pont Heol Penarth am 3:40yh wedi adroddiadau bod ymosodiad wedi digwydd ar ddynes ar lan yr afon.

Cafodd y ddynes ei thynnu o'r afon gan aelod o'r cyhoedd ac fe gafodd ei chludo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd lle mae hi mewn cyflwr sefydlog.