BBC Cymru Fyw

Cyngor Caerffili: Cyhuddo dau

Published
image captionBydd y tri dyn yn Llys Ynadon Bryste
Mae Heddlu Avon a Gwlad yr Haf wedi cyhuddo dau a rhoi gwŷs i un arall am gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Fe fydd Prif Weithredwr Cyngor Caerffili, Michael Anthony O'Sullivan, y Dirprwy Brif Weithredwr, Nigel Barnett, a phennaeth gwasanaethau cyfreithiol y cyngor, Daniel Perkins, yn Llys Ynadon Bryste ar ddyddiad i'w bennu.
Eisoes mae Mr Barnett a Mr O'Sullivan wedi eu cyhuddo'n swyddogol ac mae disgwyl i Mr Perkins gael ei gyhuddo pan fydd yn ymddangos yn y llys.
Fe ddigwyddodd y camymddygiad honedig rhwng mis Mehefin a Hydref yn 2012.
Ar ôl ystyried y manylion dywedodd Nicola Haywood o Wasanaeth Erlyn y Goron, De Cymru, bod "tystiolaeth ddigonol" i gyhuddo'r tri.