Laudrup ddim callach pam y cafodd y sac

  • Cyhoeddwyd
Laudrup
Disgrifiad o’r llun,
Hwn oedd y tro cyntaf i Laudrup drafod ei ymddiswyddiad yn gyhoeddus

Mae cyn-reolwr clwb pêl-droed Abertawe, Michael Laudrup, yn honni ei fod e dal ddim yn gwybod pam fod yr Elyrch wedi ei ymddiswyddo.

Collodd Laudrup ei swydd ar Chwefror 4, yn dilyn yr hyn gafodd ei ddisgrifio gan Abertawe fel "toriad o'r cytundeb".

Ond dywedodd Laudrup ei fod e ddim yn ymwybodol o beth oedd y "toriad", a'i fod wedi siomi'n fawr gan benderfyniad cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins.

Roedd Laudrup yn siarad yn ystod cynhadledd i'r wasg yn Llundain ar ddydd Mawrth.

Nid oedd y gŵr o Ddenmarc yn gallu trafod rhai agweddau o'i ymddiswyddiad oherwydd ei fod yng nghanol trafodaethau cyfreithiol efo Abertawe.

Ond dywedodd Laudrup - wnaeth gynrychioli Barcelona a Real Madrid fel chwaraewr - bod anghydfod ynglŷn â throsglwyddiadau chwaraewyr yr haf diwethaf wedi cyfrannu at ddirywiad yn ei berthynas efo Jenkins.

Roedd Laudrup hefyd yn anhapus bod Jenkins wedi ceisio newid ei dîm hyfforddi.

Gofynnodd y cadeirydd i Laudrup benodi Garry Monk - sydd eisoes wedi ei benodi yn olynydd Laudrup - fel is-hyfforddwr, ond roedd Laudrup yn anfodlon.

Roedd y dirywiad ym mherthynas Jenkins a Laudrup yn rheswm pwysig dros ymddiswyddiad y rheolwr, sydd hefyd wedi rheoli Mallorca, Spartak Moscow a Brøndby yn y gorffennol.

Dywedodd Laudrup ei fod wedi cwrdd â Jenkins oriau cyn i'w ymddiswyddiad cael ei gyhoedd, a bod y penderfyniad wedi dod fel syndod llwyr iddo.