Llai o dai yn cael eu hadeiladu

  • Cyhoeddwyd
Tai newydd
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r llywodraeth yn dweud bod pethau'n dechrau newid

Roedd gostyngiad yn nifer y tai gafodd ei hadeiladu yng Nghymru yn 2013 - yr unig ran o'r Deyrnas Unedig i weld llai yn cael eu codi.

Cafodd 12% yn llai o dai eu codi yn 2013 o'i gymharu â 2012, wrth i'r DU cyfan weld cynnydd o 28%.

Mae adeiladwyr yn honni mai gormod o reolau sydd ar fai, yn ogystal â system gynllunio wael ac oedi wrth gyflwyno'r fenter Cymorth i Brynu.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod eu polisïau yn cefnogi cynnydd yn y sector adeiladu a chreu swyddi.

Gormod o reolau?

Gwelodd y Cyngor Cenedlaethol Adeiladu Tai gynnydd o 30% yn nifer y tai oedd yn cael eu cofrestru'n Lloegr yn 2103, 21% yn yr Alban a 16% yng Ngogledd Iwerddon.

Roedd cynnydd o 10% neu fwy i'w weld ymhob rhanbarth yn Lloegr.

Dywedodd Persimmon Homes ym mis Medi y byddan nhw'n rhoi'r gorau i adeiladu tai yn y Cymoedd, gan roi'r bai ar brisiau isel a biwrocratiaeth Llywodraeth Cymru.

Yn ôl y cwmni, roedd hyn yn ychwanegu £3,000 i'r gost o adeiladu tŷ, o'i gymharu â Lloegr.

Mae Glyn Mabey, cadeirydd rhanbarthol Persimmon ar gyfer Cymru, yn rhoi'r bai ar reolau cynllunio a'r gost o reoleiddio.

"Mae'r gostyngiad yn nifer y cofrestru yn dangos fod problem anferth o ran cael caniatâd cynllunio mewn modd amserol, ac yna mae amodau gormodol cyn dechrau adeiladu, sy'n oedi'r gwaith rhag dechrau ar y safle," meddai wrth BBC Cymru.

'System negyddol'

Er bod ei gwmni'n cynyddu'r nifer o dai maen nhw'n adeiladu'r flwyddyn hon, gwneud hynny er gwaethaf "system gynllunio negyddol" maen nhw yn ôl Mr Mabey.

Dywedodd nad oedd cyfarfodydd diweddar gyda'r llywodraeth ynglŷn â'r rheolau wedi codi ei galon.

"Tra mae costau'r rheolau adeiladu yn uwch yng Nghymru yn parhau i olygu cost uwch ar gyfer tai newydd yng Nghymru, nid yw'n syndod fod tyfiant yn is a bod ein penderfyniadau buddsoddi o dan anfantais i Loegr.

"Be alla i ddim ei ddeall yw bod ymgynghorwyr y Cynulliad eu hunain, y Sefydliad Ymchwil Adeiladu, wedi dweud nad oedd cael systemau chwistrellu ar bob tŷ newydd yn fforddiadwy o'u dadansoddiadau - ond cafodd hyn ei anwybyddu."

Mae'r cynlluniau i gyflwyno'r systemau chwistrellu yn mynd yn eu blaen ond mae'r llywodraeth wedi cymryd camau mewn ymateb i bryderon eraill o'r sector adeiladu.

'Arwyddion positif'

Mae targedau ar gyfer effeithlonrwydd ynni wedi cael eu torri - dim ond toriad o 8% fydd yn y rheolau ar gyfer allyriannau carbon y flwyddyn hon o'i gymharu â'r 40% oedd yn cael ei ystyried.

Yn ôl y llywodraeth, bydd hyn yn arbed £4,000 ar y gost o adeiladu tŷ.

Yn ogystal, maen nhw'n gobeithio y bydd 'Cymorth i Brynu Cymru', ddaeth i rym ym mis Ionawr, yn galluogi pobl i gael morgeisi gyda llai o flaendal.

Dywedodd y llywodraeth: "Mae'r fenter wedi cael ei chroesawu gan adeiladwyr ac, yn y ddwy flwyddyn nesaf, bydd yn cefnogi prynu rhyw 5,000 o dai newydd ledled Cymru.

"Rydym wrth ein boddau bod y fenter i'w gweld yn boblogaidd ac eisiau pwysleisio fod digon o arian ar gael i gefnogi'r rheiny sy'n gymwys ac sydd â diddordeb.

"Blaenoriaeth y llywodraeth yma yw adeiladu Cymru allan o'r dirwasgiad economaidd gwaethaf mae'r wlad hon wedi ei weld.

"Mae'r hyn rydym yn ei wneud yn amlwg yn gweithio - gydag arwyddion positif bod y diwydiant adeiladu yng Nghymru yn perfformio'n well na'r rhan fwyaf o ardaloedd y DU."