Casnewydd yn ennill, pwynt i Wrecsam

Image caption Chris Zebroski sgoriodd olaf i Gasnewydd

Casnewydd 3 - 1 Rhydychen

Fe enillodd Casnewydd am y tro cyntaf ers saith gêm.

Roedd Rhydychen wedi llwyddo i gyrraedd y pwynt yma yn y tymor heb golli oddi cartref - yr unig dîm yn y pedwar adran uchaf i allu dweud hynny - ond daeth eu record i ben yn Rodney Parade.

Rhydychen aeth ar y blaen diolch i gôl gan James Constable ond fe lwyddodd Rene Howe i'w gwneud hi'n gyfartal cyn yr egwyl.

Sgoriodd Ryan Burge a Chris Zebroski yn yr ail hanner i fynd a'r fuddugoliaeth i dîm Justin Edinburgh.

Mae Casnewydd yn codi i'r wythfed safle.

Caergrawnt 0 - 0 Wrecsam

Di-sgôr oedd hi ar y diwedd yn Abbey Stadium.

Cafodd Wrecsam naw cyfle i gyd ond dim ond un ohonyn nhw wnaeth daro'r targed hyd yn oed.

Mae'r canlyniad yn eu gweld yn codi un safle i 12fed.

Gap Cei Cona 1-1 Prestatyn

Gôl yr un oedd hi yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy mewn gêm gyffrous. Mae Cei Cona'n parhau i fod saith pwynt tu ôl i Brestatyn, sydd un safle o'u blaen.

Lido Afan 0 - 6 Aberystwyth

Cafodd Afan grasfa go iawn gan Aberystwyth, a hynny ar eu cae eu hunain. Dwy yr un i Mark Jones, Chris Venables a Stuart Jones ac mae pethau'n edrych yn ddu iawn i Lido Afan ar droed y gynghrair.