Cymeradwyo cyllideb Sir Gâr
- Cyhoeddwyd
Mi fydd treth gyngor pobl Sir Gâr yn cynyddu 4.77%, wedi i gynghorwyr sir gymeradwyo'r gyllideb.
Mae'n golygu y bydd perchnogion tai band D yn talu £1026.48 yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.
Fe gytunwyd ar y gyllideb gyda dim ond mân newidiadau i'r pecyn o arbedion.
Bydd y codiad i'r treth cyngor yn gorfod cael ei gadarnhau mewn cyfarfod ym mis Mawrth,
Methodd cynnig gan Blaid Cymru i wrthod y gyllideb.
Un amlwg oedd yn absennol o'r cyfarfod fydd prif weithredwr y cyngor, Mark James.
Mae Mr James wedi penderfynu "drwy gytundeb ar y cyd" na fydd yn ymgymryd â'i ddyletswyddau fel prif weithredwr o hyn nes bod ymholiadau'r heddlu ynghylch dau Adroddiad Budd Cyhoeddus Swyddfa Archwilio Cymru wedi dod i ben.
Mae ei rôl yn cael ei lenwi gan y dirprwy brif weithredwr, Dave Gilbert.
Arbed £30 miliwn
Mae'r cyngor yn gorfod ystyried arbed £30 miliwn dros dair blynedd.
Yn sgil y cytundeb ar y gyllideb, bydd torri ar gyllidebau rheolaeth a gweinyddiaeth, a newidiadau sylweddol i gartrefi gofal yr henoed.
Mi fydd tâl yn cael ei godi am barcio yn ystod y nos, ac fe fydd pris cinio ysgol godi.
Ond ni fydd cwtogi ar gyllideb y Canolfannau Seibiant i Blant Anabl.
Fydd yna ddim chwaith doriadau i gynlluniau amddiffynfeydd llifogydd y sir.
Roedd cynlluniau i dorri gwasanaethau glanhau ffyrdd a chasglu sbwriel, dim ond 50% o'r toriadau yna fydd yn cael eu gweithredu bellach.
Mae arweinwyr y cyngor hefyd yn cynnig codiad cyflog o 4.56% i dros 3000 o weithwyr y cyngor.
Straeon perthnasol
- 14 Chwefror 2014
- 27 Chwefror 2013