Cymro'n colli mewn pencampwriaeth golff
- Cyhoeddwyd

Mae'r Cymro Jamie Donaldson wedi colli ei ornest ym Mhencampwriaeth Golff y Byd.
Roedd yn chwarae yn y bencampwriaeth yn yr Unol Daleithiau am y tro cyntaf.
Roedd Donaldson, 38 oed o Bontypridd, yn chwarae yn y rownd gyntaf yn erbyn yr Americanwr Blly Horschel, 27 oed ac yn rhif 42 ar restr y byd.
Yng nghlwb Dove Mountain ger Tucson, Arizona, mae'r Americanwr Matt Kuchar yn ceisio amddiffyn ei goron.
Eisoes mae tri o gewri'r gêm, Phil Mickelson, Adam Scott a Tiger Woods, wedi tynnu allan o'r bencampwriaeth.
Blwyddyn orau
Enillodd Donaldson ei le yn y bencampwriaeth oherwydd blwyddyn orau ei yrfa yn 2013, gan ennill Pencampwriaeth yn Abu Dhabi, dod yn ail yn Nhwrci ac yn bumed yn y Ras i Dubai.
Gan ei fod yn rhif 28 ar restr y byd mae'n gymwys i chwarae yn y prif bencampwriaethau a phencampwriaethau'r byd.
Mi fydd Donaldson yn treulio'r tri mis nesaf yn chwarae ar Gylchdaith America, gan gynnwys Meistri'r Unol Daleithiau.
Mae Donaldson yn chwarae yn adran Bobby Jones, yr unig golffiwr sydd wedi ennill camp lawn ym myd golf.
Gwnaeth Jones hyn yn 1930 fel chwaraewr amatur cyn sefydlu cwrs golff Augusta National lle mae pencampwriaeth Meistri'r Unol Daleithiau yn cael ei chwarae yn flynyddol ers 1934.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Awst 2012
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd11 Ebrill 2013