Cyngor ar Bopeth Powys yn wynebu toriadau cyllid
- Cyhoeddwyd

Mae Cabinet Cyngor Sir Powys wedi cynnig torri cyllid Cyngor Ar Bopeth 50% yn 2014-15 ac yn llwyr yn 2015-16.
Gallai hyn olygu y bydd y gwasanaeth, sydd â swyddfeydd yn Aberhonddu, Y Drenewydd ac Ystradgynlais, yn diflannu gyda 18 o weithwyr a 34 o wirfoddolwyr yn colli gwaith.
Yn ôl Cyngor Powys, cynnig yw hwn fydd yn cael ei drafod yng nghyfarfod y cyngor llawn ar Chwefror 25.
Mae disgwyl y bydd y cyngor yn ceisio arbed £40m dros y tair blynedd nesaf, wedi i'r llywodraeth dorri 4.5% o'u cyllideb.
'Ergyd drom'
Dywedodd Chris Mann, cadeirydd Cyngor ar Bopeth Powys: "Y flwyddyn nesaf rydym yn wynebu toriad o 50% a 100% y flwyddyn wedyn. 'Dan ni wedi siarad efo cynghorwyr yn barod am hyn.
"Mae colli 50% o'n cyllid yn ergyd drom oherwydd rydan ni'n derbyn cyllid o ffynonellau eraill.
"Os ydan ni'n colli cyllid craidd mae'n peryglu'r gwasanaeth.
"Oherwydd arian o'r cyngor rydan ni wedi derbyn grantiau o £336,000 dros y flwyddyn ddiwethaf.
"Ers i newidiadau budd-daliadau ddod i rym rydan ni wedi gweld mwy a mwy o bobl."
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae'r CAB wedi helpu 6,000 i gael £2.2m o fudd-daliadau.
Ychwanegodd Mr Mann: "Powys ydi'r unig sir sydd yn gwneud hyn.
"Rydan ni'n rhan o linell ffôn argyfwng Prydeinig ac os bydd rhywun yn ffonio yn y nos ac yn siarad gydag un o'n gweithwyr neu wirfoddolwyr mewn swyddfa yn Y Rhyl neu Gaerdydd, mae'n cael cyngor i ddod i un o'n swyddfeydd i drafod y mater.
"Gallai hyn i gyd ddiflannu a neb yn y sir ar gael i roi cyngor i bobl gyda'u problemau."
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Cynnig yw hwn fydd yn mynd gerbron y cyngor sir. Y bwriad yw lleihau'r cyllid yn raddol.
"Mae penderfyniad wedi cael ei wneud gan y cabinet i amddiffyn gwasanaethau statudol fel gwasanaethau cymdeithasol ac ysgolion."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd20 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2014