Snwcer: Pencampwriaeth Agored Cymru

  • Cyhoeddwyd
Stephen MaguireFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Stephen Maguire enillodd y bencampwriaeth yn 2013 wedi buddugoliaeth mewn gêm gyffrous yn erbyn Stuart Bigham

Mae Pencampwriaeth Snwcer Agored Cymru yn dechrau ddydd Mercher am y tro diwethaf yn ei chartref ers nifer o flynyddoedd, Canolfan Casnewydd.

Dywedodd cadeirydd World Snooker - y corff sy'n rheoli'r gamp - Barry Hearn nad oedd neb yn beirniadu Casnewydd fel lleoliad, ond ei bod hi'n bryd i'r gystadleuaeth symud a datblygu.

"Rwyf am edrych o'r newydd ar ein holl leoliadau er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cynnig y profiad gorau i'r cwsmer sy'n prynu tocyn," meddai.

"Gorau oll os byddwn yn medru creu digwyddiadau gwell ac adnoddau gwell i'r chwaraewyr.

"... rydym wedi bod yng Nghasnewydd ers blynyddoedd, ond mae'n bryd uwchraddio Pencampwriaeth Agored Cymru yn brif ddigwyddiad.

"Byddwn wrth fy modd yn ei gweld yng Nghaerdydd ac rwyf wedi gorchymyn trafodaethau gydag amryw leoliadau yng Nghaerdydd."

10 o Gymry

Wrth i un bennod ddod i ben yn hanes y gystadleuaeth, mae un arall yn agor.

Pencampwriaeth Agored Cymru 2014 fydd y tro cyntaf i 128 o chwaraewyr cystadleuaeth ddethol y byd ddechrau yn yr un rownd ac yn yr un lleoliad.

Yn eu plith y tro yma mae 10 o Gymry. Mae'n debyg y bydd y disgwyliadau mwyaf yn achos Mark Williams a Matthew Stevens.

Ond ynghyd ag ambell hen ben arall, fel Dominic Dale a Ryan Day, mae criw o Gymry ifanc yn gobeithio creu argraff.

Michael White o Gastell-nedd yw un wrth gwrs. Er iddo gyrraedd wyth olaf Pencampwriaeth y Byd yn y Cruicible yn 2013, dyw e heb ddangos arwyddion pellach o'i ddatblygiad ers hynny ac fe fydd yn gobeithio aildanio'i yrfa gyda pherfformiad da.

Y pedwar arall sy'n gobeithio am bencampwriaeth dda yw Jamie Jones, Daniel Wells, Jak Jones, Andrew Pagett a Duane Jones.

Bydd tri o'r Cymry'n chwarae ar y diwrnod cyntaf ddydd Mercher. Matthew Stevens yn y sesiwn brynhawn am 2:00yh, ac yna Pagett a Duane Jones gyda'r nos am 7yh.