Cadeirydd newydd i fwrdd coleg

  • Cyhoeddwyd
Andrew Green
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Andrew Green yn Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol rhwng 1998 a 2013

Mae Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyhoeddi mai Andrew Green fydd cadeirydd bwrdd cyfarwyddwyr y coleg, gan olynu'r Athro Merfyn Jones ar Ebrill 1.

Tan iddo ymddeol ym mis Mawrth 2013 roedd Mr Green yn Llyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol ers 1998.

Mae eisoes yn aelod o'r bwrdd ac wedi cadeirio panel academaidd ar ran y coleg ers ei sefydlu.

Roedd yn aelod o nifer o gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Cyngor Prifysgol Aberystwyth a Phwyllgor Cynghori Cymru y Cyngor Prydeinig.

Dywedodd Mr Green: "Mewn cyfnod byr mae'r coleg wedi ennill ei blwyf fel sefydliad effeithiol a bywiog. Anrhydedd fawr imi yw cael fy mhenodi'n gadeirydd.

'Cryfhau'

"Edrychaf ymlaen yn fawr iawn at gydweithio ag aelodau bwrdd a staff y coleg yn ystod y tair blynedd nesaf, er mwyn cryfhau addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg, a sicrhau bod gan fyfyrwyr y cyfle i ddefnyddio'r iaith ym mhob pwnc posibl."

Wrth gyhoeddi'r penodiad, dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: "Wedi cael y cyfle i gydweithio gydag Andrew Green yn y gorffennol yr wyf i a'm cydweithwyr yn croesawu'r penodiad hwn yn fawr iawn.

"Mae dealltwriaeth Andrew o'r sector addysg uwch, ei brofiad fel Llyfrgellydd Cenedlaethol arloesol, a'r profiad sydd ganddo'n barod fel aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg yn ei gymhwyso i gynnig arweiniad strategol i'r Bwrdd Cyfarwyddwyr yn ystod y blynyddoedd allweddol nesaf."