BBC Cymru Fyw

Llywodraeth Cymru eisiau gwybod os oes arian ar y ffordd

Published
image captionRoedd Mr Cameron yn Niwgwl a Thyddewi yn Sir Benfro
Mae Llywodraeth Cymru eisiau gwybod os bydd arian yn dod i Gymru yn sgil y llifogydd, a hynny fel "mater o frys".
Mae Prif Weinidog y DU, David Cameron wedi bod yn ymweld â Sir Benfro fel rhan o'i daith i gymunedau gafodd eu heffeithio gan lifogydd.
Dywedodd mai "mater i Lywodraeth Cymru" yw amddiffynfeydd yn bennaf, ond y byddai Llywodraeth San Steffan yn helpu.
Mae'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol, Alun Davies wedi galw ar Mr Cameron i ddweud yn glir os yw hyn yn golygu y bydd arian newydd yn cael ei roi i Lywodraeth Cymru.
"Rwy'n falch o weld y prif weinidog yn ymweld â Sir Benfro heddiw i weld dros ei hun sut rydym wedi llwyddo i reoli effaith y llifogydd yng Nghymru," meddai.
"Rydym yn nodi gyda diddordeb ei awgrymiad y gallai mwy o arian fod ar gael i helpu gyda'r gwaith glanhau.
"Rydym yn cymryd fod hyn yn golygu mwy o arian i Gymru, gan fod y cyhoeddiad wedi ei wneud yn Sir Benfro ac nid yn Lloegr, ac mae hyn yn rhywbeth fydd ein swyddogion yn edrych arno fel mater brys."

'Cyd-weithio'n dda'

Yn ystod ei ymweliad cadarnhaodd Mr Cameron na fyddai pobl gafodd eu heffeithio gan lifogydd yn gorfod talu treth y cyngor.
Dywedodd wrth BBC Cymru: "Rydyn ni'n hapus iawn i weithio gyda Llywodraeth Cymru.
"... byddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd i weld a oes gwersi i'w dysgu ac, yn amlwg, rydyn ni'n awyddus iawn i helpu yn ystod y llifogydd.
"Rydyn ni'n dal i aros i'r dŵr gilio i weld faint o ddifrod sydd wedi bod."
Ychwanegodd ei fod wedi cynnig help i Brif Weinidog Cymru.
"Fe wnes i alw Carwyn Jones i gynnig help y lluoedd arfog os oedd angen hynny," meddai. "Rydyn ni'n gweithio'n dda gyda'n gilydd."
Siaradodd gyda rhai gafodd eu heffeithio gan y llifogydd ac aeth i dafarn y Duke of Edinburgh yn Niwgwl sydd wedi ei thrwsio wedi'r difrod.
Yna aeth i ffatri yn Nhyddewi.
Dywedodd fod y daith yn gyfle iddo ddiolch i'r rhai sydd wedi delio gyda'r llifogydd, a hefyd yn gyfle i ddysgu gwersi am amddiffynfeydd llifogydd ac isadeiledd.
Ar wefan Twitter dywedodd: "Gallaf gadarnhau y byddwn yn ariannu cynghorau fydd yn rhoi ad-daliad treth y cyngor i bobl sydd wedi eu heffeithio gan lifogydd."

Straeon perthnasol

  • Llifogydd: cyhoeddi cynllun newydd