Rhieni'n rhoi teyrnged i'w babi

  • Cyhoeddwyd
Eliza-Mae Mullane
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Eliza-Mae Mullane ei chludo i'r ysbyty mewn hofrennydd ond bu farw yn ddiweddarach

Mae rhieni Eliza-Mae Mullane, y babi chwe diwrnod oed fu farw ym Mhontyberem ddydd Mawrth wedi rhoi teyrnged i'w merch.

Dywedodd Sharon John a Patrick Mullane nad oedd geiriau i ddisgrifio'r hyn oedd wedi digwydd.

Cafodd y ferch ei chludo i'r ysbyty yng Nghaerdydd mewn hofrennydd ond doedd y timau meddygol ddim yn gallu ei hachub.

Cafodd ci'r teulu - Alaskan Malamute - ei gymryd o'r tŷ gan yr heddlu ddydd Mawrth, ac mae ymchwiliadau yn parhau.

'Cofio'n annwyl'

Mewn datganiad dywedodd y rhieni: "Er ei bod hi'n rhan bwysig o'n teulu ni am gyfnod mor fyr, bydd Eliza-Mae yn ein calonnau a'n meddyliau am byth a byddwn yn cofio'n annwyl ein hamser gyda hi.

"Roedd hi'n chwaer, wyres a nith annwyl.

"Daeth â llawenydd i'n teulu ac mae ei cholli hi fel hyn yn gysgod ofnadwy drosom ni.

"Nid oes geiriau i ddisgrifio ein teimladau ni ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn meddwl y bydd byth."

Cafodd plismyn eu galw i New Road yn y pentre' yn Sir Gaerfyrddin ychydig ar ôl 8:30yb ddydd Mawrth.

Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau ddydd Mercher gyda thimau fforensig yn cynnal profion yn y tŷ.

Ac mae disgwyl canlyniadau'r profion fforensig a chasgliad archwiliad post mortem cyn hir.

Disgrifiad o’r llun,
Daeth cerbyd uned gŵn yr heddlu i Bontyberem ddydd Mawrth
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Sharon John y babi yr wythnos diwethaf - dywedodd cymydog bod Patrick Mullane wedi dod â'r ci adref o dafarn

Does dim cadarnhad eto am achos y farwolaeth na manylion anafiadau'r babi.

Dywedodd y Prif Arolygydd Ieuan Mathews o Heddlu Dyfed Powys: "Rydym yn ymchwilio i farwolaeth sydyn babi mewn eiddo yn New Road, Pontyberem.

'Chwe diwrnod'

"Roedd y babi yn ferch chwe diwrnod oed.

"Cawsom ein galw gan y gwasanaeth ambiwlans ychydig cyn 8:30 fore Mawrth ac fe gafodd y babi ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd mewn hofrennydd.

"Yn drist iawn, cyhoeddodd yr ysbyty ei bod wedi marw."

Yn ôl y prif arolygydd, y fam wnaeth yr alwad, ac roedd dau o blant eraill y teulu yno ar y pryd, y ddau o dan 6 oed.

"Mae ci'r teulu - Alaskan Malamute - wedi cael ei gymryd gan yr heddlu ... Gallaf gadarnhau nad yw'r ci wedi ei restru yn y Ddeddf Cŵn Peryglus.

"Yn amlwg, rydyn ni'n cydymdeimlo gyda'r teulu yn y cyfnod trist yma ac mae gennym swyddogion arbenigol yn cynnig cymorth.

"Gofynnwn i chi adael llonydd iddyn nhw alaru."

'Argyfwng'

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Fe gawson ni'n galw am 8:26yb ddydd Mawrth i argyfwng meddygol mewn tŷ ym Mhontyberem.

"Fe gafodd parafeddyg ei anfon yn syth ynghyd â hofrennydd ac fe gafodd y babi ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru."

Ychwanegodd Ann Williams, sy'n byw yn yr un stryd: "Roedden ni'n gwybod am y teulu ond ddim yn 'nabod ein gilydd yn dda.

"Y peth cyntaf glywon ni oedd seirens lond y lle ac wedyn fe ddaeth cerbyd cŵn yr heddlu erbyn tua 9:30-10:00yb.

"Roedd hi'n sioc. Fe gafodd yr hewl ei chau yn syth.

"Mae'n dristwch ac yn sioc - shwd arall allwch chi deimlo? Mae wyrion ein hunain 'da ni a dydych chi ddim yn disgwyl cael rhywbeth fel hyn yn digwydd yn eich stryd eich hun."

Beirniadu'r Sun

Mae papur newydd y Sun wedi cyhoeddi datganiad yn dilyn beirniadaeth chwyrn am y ffordd y gwnaethon nhw bortreadu'r stori yn y papur.

Mae'r AC lleol, Keith Davies, wedi dweud: "Dwi'n ystyried hi'n annymunol bod rhai o'r wasg cenedlaethol wedi dewis creu cynnwrf ynghlych marwolaeth y babi yn y ffordd a welir heddiw."

Ac fe ddywedodd yr AS Jonathan Edwards ar Taro'r Post: "Unwaith eto rydym yn gweld y wasg Lundeinig yn defnyddio trychineb cymuned i werthu papurau. Mae pobl yn ddig iawn ynglŷn â'r ffordd maen nhw wedi dewis adrodd am y digwyddiadau trist."

Yn ogystal mae nifer fawr o bobl ar wefan Twitter wedi beirniadu'r pennawd sydd wedi ymddangos ar dudalen flaen y papur, ac mae Comisiwn Cwynion y Wasg wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn nifer o gwynion.

Mewn datganiad, dywedodd The Sun: "Mae ein hadroddiad heddiw (sydd dros dair tudalen) yn ceisio dangos graddau llawn yr ymosodiad, gan gynnwys ymateb y fam, oedd wedi ei harswydo (mae hyn wedi ei adrodd mewn mannau eraill).

"Doedd gennym ni ddim bwriad o fod yn amharchus ac rydym yn gresynu'r ffaith bod pobl yn bryderus am ein pennawd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol