Comisiynydd wedi 'camddeall'?

  • Cyhoeddwyd
Meri Huws
Disgrifiad o’r llun,
Dyma'r tro cyntaf i'r Comisynydd ddefnyddio'i phwerau i fynd â chorff cyhoeddus i'r llys

Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cael ei chyhuddo o gamddeall y canllawiau sy'n ymwneud â chynlluniau iaith.

Cyfreithwyr yr asiantaeth cynilion NS&I wnaeth y cyhuddiad ar ôl i swyddfa Meri Huws honni nad oedd gan yr asiantaeth yr hawl i beidio cynnig gwasnaeth Cymraeg i'w cwsmeriaid.

Rhoddodd NS&I y gorau i'w gwasanaeth iaith Gymraeg fis Ebrill 2013, gan ddweud bod y gwasanaeth yn costio hyd at £900 y pen, ac nad oedd digon o gwsmeriaid yn gofyn am wasanaeth Cymraeg.

O flaen barnwr Uchel Lys ddydd Mercher, cyflwynodd Cwnsler Meri Huws dri rheswm am gynnal arolwg barnwrol.

Roedd y rhesymau'n cynnwys honiad bod NS&I wedi gweithredu'n anghyfreithlon gan ddod â'r gwasanaeth i ben heb drafod gyda hi.

Ond fe ddywedodd NS&I fod y Comisiynydd wedi camddeall y canllawiau - ac os ydyn nhw'n dewis cynnig gwasanaeth Cymraeg o'u gwirfodd, yna fe gawn nhw ddewis peidio â chynnig un, hefyd.

Fe ohiriodd y llys y ddedfryd yn yr achos.