Cau ffatri ddillad yng Nghastell Nedd
- Cyhoeddwyd
Bydd 34 o swyddi yn diflannu wrth i ffatri ddillad yng Nghastell Nedd gau ei drysau.
Mae Cwmni Robinson Webster Production wedi cyhoeddi fore Iau y bydd eu ffatri yn cau.
Mae'r ffatri wedi bod yn cynhyrchu dillad ar gyfer nifer o labeli'r stryd fawr, gan gynnwys Jigsaw.
Yn ôl y cwmni: "Mae'r grwp wedi bod yn ymgynghori gyda gweithwyr ers cryn amser ac wedi bod yn gweithio'n agos gyda Gyrfaoedd Cymru a'r ganolfan waith leol sydd wedi bod i'r safle i drafod cyfleoedd swyddi, ailhyfforddi a chyngor gyda chreu CVs."
"O'r 34 o weithwyr sy'n cael eu heffeithio gan gau'r ffatri, mae chwech eisoes wedi dod o hyd i waith yn lleol."
Mae perchnogion y ffatri yn rhan o gwmni grwp mwy.
Robinson Webster Holdings sydd eu perchen ac maen nhw hefyd yn rhiant gwmni Jigsaw.