Teimlo daeargryn yn ne Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae arbenigwyr yn ymchwilio wedi i nifer deimlo daeargryn yn ne Cymru brynhawn dydd Iau.
Dywedodd Arolwg Daeareg Prydain fod dirgryniad yn mesur 4.1 ar y raddfa Richter rhwng arfordiroedd Dyfnaint a Phenrhyn Gŵyr, dri chilometr o dan y dŵr ym Môr Hafren.
Cafodd ei gofnodi tua 1:21yh, gyda'r canolbwynt i'r gogledd o Ilfracombe, Dyfnanint, ac i'r de o'r Gŵyr a Gwlad yr Haf.
Roedd ar ddyfnder o 3.1 milltir (5 cilometr).
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu bod nhw wedi derbyn dwy alwad ffôn o ardal Llanelli yn dweud bod daeargryn wedi bod.
'Ysgwyd fel jeli'
Dywedodd Rachel Howells, 36, o ardal Abertawe, ei bod yn eistedd wrth ei desg yn gweithio pan ddechreuodd yr adeilad "ysgwyd fel jeli".
"Roedd yn teimlo fel petai rhywun wedi taro mewn i ochr y tŷ," meddai.
"'Dan ni'n adeiladu estyniad ar ochr y tŷ ac roeddwn i'n meddwl bod rhywbeth wedi mynd o'i le gyda'r gwaith adeiladu.
"Doedd 'na ddim sŵn, roedd fel sioc, gyda'r tŷ cyfan yn ysgwyd, fel fan yn taro yn erbyn y tŷ neu rywbeth.
"Dim ond rhyw ddwy eiliad barodd y cyfan, doedd o fawr o beth i ddweud y gwir."
Mae nifer o bobl yn ardal Llanelli ac Abertawe wedi trydar eu bod nhw wedi teimlo'r dirgryniad.