Cynulliad Cymru a Microsoft yn lansio meddalwedd cyfieithu
- Cyhoeddwyd

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ar y cyd â chwmni cyfrifiadurol Microsoft, yn lansio meddalwedd cyfieithu Cymraeg newydd.
Mae'r meddalwedd yn cael ei lansio ar ddiwrnod Rhyngwladol y Famiaith, a'r gobaith, yn ôl y Cynulliad, yw hwyluso'r broses o gyfieithu a chynnig adnodd newydd i ddefnyddwyr y Gymraeg.
Bydd y Gymraeg yn ymuno â'r ieithoedd hynny sydd eisoes wedi'u cynnwys o fewn gwasanaethau cyfieithu 'Microsoft Translator'.
Yn ol Rhodri Glyn Thomas AC, Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg: ''Mae hwn yn gam mawr ymlaen o ran gweithio'n ddwyieithog, a gallwn ymfalchio ein bod wedi gallu cynorthwyo i ddatblygu cyfleuster cyfieithu mor bwerus.
''Bydd o gymorth i hwyluso'r ffordd i bobl gyfathrebu ag eraill yn eu dewis iaith, a bydd o gymorth i bobl sy'n dysgu Cymraeg neu sydd am ddeall y Gymraeg yn y gweithle.''
Er nad yw meddalwedd cyfieithu yn cynnig ansawdd cystal â gwaith cyfieithwyr yn ôl y datblygwyr, maen nhw'n ffyddiog y bydd y system yn cynnig lefel o ddealltwriaeth safonol i bobl, yn hwb i ddwyieithrwydd, ac yn arbed amser i gyfieithwyr proffesiynol.
'Yn dal angen cyfieithwyr'
Yn ôl Geraint Wyn Parry, Prif Weithredwr Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru: ''Rydym yn croesawu'r datblygiad yma ac yn edrych ymlaen at weithio hefo'r Cynulliad i ddatblygu'r system yn well ac yn fwy effeithiol at y dyfodol.
"Mae'r system ar ei ffurf ddatblygol ar hyn o bryd ac nid ar ei ffurf derfynol. Bydd modd ychwanegu geiriau, dywediadau ac idiomau i'r system yn y dyfodol.''
Ychwanegodd: ''Fe all y datblygiad hwyluso gwaith cyfieithwyr yn fawr iawn. Yr hyn sydd yn bwysig ydi na fydd yn cymryd lle'r angen am gyfieithwyr ac fe fydd yn dal angen cyfieithwyr i fynd trwy'r gwaith o gyfieithu yn ofalus.''
Fe fydd y feddalwedd cyfieithu yn darparu cyfleuster cyfieithu i staff y Cynulliad yn ogystal ag aelodau'r Cynulliad yn y dyfodol.
'Hunaniaeth'
Dywedodd Derrick McCourt, Rheolwr Cyffredinol y Sector Cyhoeddus i gwmni Microsoft: ''Mae iaith yn rhan allweddol o hunaniaeth unrhyw gymuned - ac mae'r un peth yn wir am y Gymraeg. Mae Microsoft yn falch iawn o allu gweithio gyda'r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn gallu ychwanegu'r Gymraeg at yr ieithoedd eraill a gefnogir gan Microsoft Translator.
''Bydd manteisio ar y dechnoleg ddiweddaraf hon yn cynorthwyo i gryfhau egni a chydlyniant o fewn y gymuned Gymraeg.''
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd2 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd23 Hydref 2012