Gwrthdrawiad: Pedwar yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Cafodd pedwar o bobl eu cludo i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd nos Iau.
Cafodd y gwasanaethau eu galw i'r digwyddiad yng nghanol Casnewydd rhwng 10 a 10:30yh.
Fe ddefnyddiodd y gwasanaethau tân offer torri er mwyn rhyddhau un ddynes o gerbyd yn Hill Street.
Yn ôl Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, aethpwyd a'r pedwar i'r ysbyty fel rhagofal.