BBC Cymru Fyw

Diflaniad merch 15 oed: Heddlu yn apelio

Published
image copyrightCapper, Huw (Con 2739)
image captionDyw Gemma Colwell ddim wedi ei gweld ers dydd Iau
Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth er mwyn dod o hyd i ferch 15 oed o Landrillo-yn-Rhos wrth ymyl Bae Colwyn.
Dydy Gemma Colwell ddim wedi ei gweld ers dydd Iau ac mae'r heddlu yn dweud bod ei diflaniad yn anarferol.
Mae ganddi lygaid glas, gwallt melyn at ei hysgwyddau ac mae'n 4 troedfedd a 3 modfedd o daldra.
Cafodd ei gweld ddiwethaf yn gwisgo top gwyn gyda hwd, legins du, esgidiau Ugg llwyd a het ddu a gwyn.
Mae heddlu'r Gogledd wedi gofyn i Gemma Colwell i gysylltu gyda'r heddlu a'i theulu i roi gwybod iddyn nhw ei bod hi'n ddiogel.
Maen nhw hefyd yn gofyn i unrhyw un sydd gyda gwybodaeth i gysylltu gyda nhw trwy ffonio 101.