Cyffuriau: arestio pedwar

  • Cyhoeddwyd
Heroin
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd yr heddlu eu bod yn credu bod heroin a chocên wedi eu darganfod mewn tŷ.

Mae pedwar o bobl wedi cael eu harestio ar amheuaeth o gyflawni troseddau'n ymwneud â'r Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau.

Fe aeth heddlu i mewn i dai yn Llandudno a Phenmaenamawr ddydd Mercher 19 a chafodd tri dyn ac un ddynes eu harestio.

Fe gafodd gŵr 41 oed a gwraig 29 oed eu harestio a dywedodd yr heddlu eu bod yn credu bod heroin a chocên wedi eu darganfod mewn tŷ yn ardal Llandudno.

Fe gafodd y ddau eu harestio ar amheuaeth o fod â chyffuriau Dosbarth A yn eu meddiant gyda'r bwriad o'u gwerthu.

Fe fydd y sylweddau yn cael eu dadansoddi ymhellach gydag arbenigwr fforensig.

Dywedodd yr heddlu fod planhigion canabis wedi cael eu darganfod mewn cyfeiriad arall.

Yno fe gafodd gŵr 25 oed ei arestio ar amheuaeth o gyflenwi cyffur Dosbarth B.

Fe gafodd dyn arall yn ei 30au ei arestio yn ardal Penmaenmawr wedi i blanhigion canabis gael eu darganfod yno.

Rhyddhau

Mae'r pedwar gafodd eu harestio wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Dywedodd yr Arolygydd Paul Joyce: "Rydym wedi'n hymrwymo i daclo cyffuriau anghyfreithlon ac mae'r gwarantau sydd wedi'u gweithredu yn dangos hyn.

"Roedd yn ymgyrch yn sgil gwybodaeth gudd yn cynnwys nifer o dditectifs o adran CID Llanelwy ac aelodau o Dîm Plismona'r Gymdogaeth.

"Hoffwn sicrhau trigolion y bydd y gwaith hwn yn parhau ac yn sgil hynny, rwy'n apelio at unrhyw un â gwybodaeth am gyflenwi neu werthu cyffuriau i gysylltu â ni ar 101 neu gysylltu ag aelodau Tîm Plismona'r Gymdogaeth leol."

Mae modd hefyd i unigolion ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.