BBC Cymru Fyw

Heddlu wedi dod o hyd i ferch 15 oed

Published
image copyrightCapper, Huw (Con 2739)
image captionDoedd Gemma Colwell ddim wedi ei gweld ers dydd Iau

Mae merch 15 oed o Landrillo-yn-Rhos ger Bae Colwyn oedd wedi bod ar goll yn saff ac yn iach, yn ardal Essex.

Doedd Gemma Colwell ddim wedi ei gweld ers dydd Iau ac roedd yr heddlu yn dweud bod ei diflaniad yn anarferol.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod yn diolch i bawb am eu cymorth a'u cefnogaeth.

Cafodd dyn 23 oed o Essex ei arestio cyn i Heddlu Llundain ei holi.

Straeon perthnasol

  • Diflaniad merch 15 oed: Heddlu yn apelio