Adroddiad: busnesau a'r iaith

Bws Image copyright Arall
Image caption Mae'r adroddiad yn argymhell edrych ar gysylltiadau trafnidiaeth rhwng cadarnleoedd yr iaith

Dylai pob busnes sy'n derbyn grant gan Lywodraeth Cymru ddangos eu bod yn bwriadu darparu gwasanaeth dwyieithog, medd adroddiad.

Yn ôl y grŵp arbenigol a luniodd yr argymhellion, "dylai unrhyw arwyddion neu ddeunydd hysbysebu sy'n gysylltiedig â phrosiect sy'n derbyn cymorth grant fod yn ddwyieithog".

Mae argymhellion eraill yn cynnwys meddwl am roi cyfrifoldebau datblygu economaidd i'r mentrau iaith ac ymchwilio i gysylltiadau trafnidiaeth cyhoeddus rhwng y cadarnleoedd Cymraeg.

Bydd Gweinidog yr Economi, Edwina Hart, yn ystyried yr argymhellion ac yn adrodd yn ôl cyn yr haf.

'Canlyniad positif i'r iaith'

Ms Hart sefydlodd y grŵp, gan ofyn iddyn nhw ystyried sut y gallai'r Gymraeg helpu busnesau i ddatblygu'n economaidd - a sut y gallai busnesau gynyddu'r defnydd o'r iaith.

Cafodd ei gadeirio gan Elin Rhys, rheolwr gyfarwyddwr Telesgop, ddywedodd wrth gyhoeddi'r adroddiad: "Mae cysylltiad annatod rhwng y Gymraeg a'r economi, swyddi, cyfoeth a lles cymunedau.

"Wrth i'r economi geisio adfer ar ôl un o'r dirwasgiadau byd eang gwaethaf erioed roedd hi'n briodol sefydlu'r grŵp hwn er mwyn cynghori ar y cysylltiad hwn a hefyd ystyried sut y gallwn ni fanteisio arno a'i ddatblygu ymhellach er budd pawb.

"Rydym wedi canolbwyntio ar geisio sicrhau canlyniadau positif i'r iaith ac ar feithrin datblygiad economaidd.

"Mae ein hargymhellion yn eang eu cwmpas, yn adeiladu ar arferion da, yn ymateb i'r dystiolaeth a gyflwynwyd ac yn deillio o drafodaethau diflino a manwl o fewn y grŵp."

Argymhellion

Mae'r adroddiad yn gwneud 27 argymhelliad i gyd, gan gynnwys:

  • Dylid ariannu prosiectau peilot mewn trefi yn Ardaloedd Menter Ynys Môn ac Eryri ac yn Nyffryn Teifi a ger yr ardaloedd hynny yn dilyn llwyddiant prosiectau cymunedol fel un Galeri, Caernarfon;
  • Dylai Llywodraeth Cymru gasglu tystiolaeth am effaith y Gymraeg ar yr economi a'r cysylltiadau rhyngddyn nhw er mwyn argyhoeddi busnesau o fanteision gweithio'n ddwyieithog;
  • Dylid sefydlu panel annibynnol a fyddai'n rhoi cyngor i'r Gweinidog ar sut y gall y Gymraeg fanteisio ar ddatblygu economaidd a chyfrannu ato, gan adeiladu ar yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwn;
  • Dylid rhoi cefnogaeth ac arweiniad i fusnesau ar ddefnyddio'r Gymraeg a symleiddio'r broses yn hytrach na'u gorfodi i'w defnyddio;
  • Dylid annog busnesau i ddefnyddio'r parth ".cymru" ar y rhyngrwyd pan fydd y cyfle'n codi;
  • Dylai fod yn ofynnol i'r rheini sy'n tendro ar gyfer contractau yn y sector cyhoeddus ddangos eu bod yn gallu darparu gwasanaeth yn ddwyieithog.

Mae cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu'r adroddiad.

'Adroddiad clodwiw'

Dywedodd Robin Farrar: "Dyma'r diweddaraf mewn cyfres o adroddiadau clodwiw mae Llywodraeth Cymru wedi eu derbyn ond pryd mae Carwyn Jones yn mynd i weithredu?"

"Mae nifer o'r argymhellion yn yr adroddiad yn cefnogi'r hyn rydyn ni wedi pwyso amdano yn ein Maniffesto Byw.

"Rydyn ni'n croesawu'r argymhellion i roi rôl economaidd i'r mentrau iaith, sicrhau polisi caffael cadarnach, a gwneud darparu gwasanaeth Gymraeg yn hanfodol ar gyfer contractau a grantiau'r sector cyhoeddus."

Mae Ms Hart wedi dweud ei bod eisiau ystyried canfyddiadau'r adroddiad cyn ymateb iddo'n ffurfiol.

"Bydd y gwaith yn dechrau yn awr i asesu effeithiau a chostau posibl yr argymhellion," meddai.

"Cyhoeddir yr adroddiad ar wefan Llywodraeth Cymru fel bod modd gwneud sylwadau arno.

"O ran y camau nesaf, mae rhai o'r argymhellion yn cwmpasu nifer o bortffolios gweinidogol ac rwyf wedi ysgrifennu at fy nghyd-aelodau o'r Cabinet am y materion hyn."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.