Euro 2016: Yr enwau o'r het
- Cyhoeddwyd

Fe fydd tîm pêl-droed Cymru'n cael gwybod yn ddiweddarach pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn rowndiau rhagbrofol cystadleuaeth Euro 2016.
Fe fydd yr enwau'n cael eu tynnu o'r het mewn seremoni yn Nice, Ffrainc, am 11:00yb ein hamser ni.
Mae'r drefn o gymhwyso ar gyfer y rowndiau terfynol yn Ffrainc yn 2016 yn wahanol iawn i'r cystadlaethau diweddar gan ei bod bellach wedi ehangu i gynnwys 24 o dimau yn y rowndiau terfynol.
Fe fydd naw o grwpiau yn y rowndiau rhagbrofol gydag wyth grŵp o chwe thîm ac un grŵp o bum tîm.
Bydd y timau sy'n gorffen yn gyntaf ac ail ymhob grŵp (18 o dimau) yn mynd yn syth i'r rowndiau terfynol ynghyd â'r tîm yn y trydydd safle gyda'r record orau yn y gemau rhagbrofol.
Bydd yr wyth tîm arall i orffen yn drydydd yn mynd i gemau ail-gyfle er mwyn gweld pwy fydd yn cipio'r pedwar lle arall i wneud cyfanswm o 24 tîm yn Euro 2016.
Fel y wlad sy'n cynnal y gystadleuaeth mae Ffrainc yn gymwys yn syth, ond fe fyddan nhw'n chwarae yn erbyn timau yn y grŵp o bump ar ddyddiadau'r gemau rhagbrofol er mwyn eu bod yn cael chwarae teg o ran paratoi am y gystadleuaeth.
Bydd y timau i bob grŵp yn dod o botiau sy'n seiliedig ar restr detholion UEFA - y corff sy'n rheoli pêl-droed yn Ewrop.
Mae Cymru ym mhot 4 gyda'r Alban, tra bod Lloegr ym mhot 1 a Gogledd Iwerddon ym mhot 5. Un tîm o bob pot fydd ymhob grŵp.
Dyma fydd y timau ymhob pot :-
- POT 1: Sbaen (deiliaid), Yr Almaen, Yr Iseldiroedd, Yr Eidal, Lloegr, Portiwgal, Groeg, Rwsia a Bosnia Herzegovina;
- POT 2: Wcrain, Croatia, Sweden, Denmarc, Swistir, Belg, Y Weriniaeth Siec, Hwngari a Gweriniaeth Iwerddon;
- POT 3: Serbia, Twrci, Slofenia, Israel, Norwy, Slofacia, Romania, Awstria a Pwyl;
- POT 4: Montenegro, Armenia, Yr Alban, Y Ffindir, Latfia, CYMRU, Bwlgaria, Estonia a, Belarws;
- POT 5: Gwlad yr Iâ, Gogledd Iwerddon, Albania, Lithwania, Moldofa, FYR Macedonia, Azerbaijan, Georgia a Cyprus;
- POT 6: Lwcsembwrg, Kazakhstan, Leichtenstein, Ynysoedd Ffaro, Melita, Andorra, San Marino a Gibraltar.
Bydd Gibraltar yn ymddangos yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf, ond mae pwyllgor UEFA wedi penderfynu na fyddan nhw'n cael bod yn yr un grŵp â Sbaen am resymau gwleidyddol, ac mae'r un peth yn wir am Armenia ac Azerbaijan.