Scarlets 25- 21 Caeredin

  • Cyhoeddwyd
Jordan Williams scored two Scarlets triesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Daeth dwy gais i Jordan Williams

Gêm agos oedd hi rhwng y Scarlets a Chaeredin ond mi lwyddodd tîm y Sosban i grafu buddugoliaeth.

Y canolwr Nick de Luca gafodd y cais cyntaf i'r ymwelwyr. Wedi i Carl Bezuidenhout lwyddo gyda'r trosiad ac wedyn gyda chic gosb roedd Caeredin yn dechrau ennill momentwm.

Mi lwyddodd Aled Thomas i leihau'r bwlch gydag wyth pwynt o'i droed. A chyn diwedd yr hanner cyntaf mi gafodd Jordan Williams ddwy gais oedd yn golygu mai'r Scarlets oedd ar y blaen.

Mi frwydrodd Caeredin yn ol gyda chais yn dod i Tom Brown. Ond cafodd Adam Warren gais i'r Scarlets cyn y chwarter awr olaf.

Er cic gosb Jack Cuthbert, tîm y Sosban oedd yn dathlu ar ddiwedd yr 80 munud.