Trigolion yn gadael eu tai ar ôl darganfod dyfais

  • Cyhoeddwyd

Cafodd o leiaf 50 o dai eu gwagio ym Merthyr Tudful ddydd Sadwrn ar ôl pryderon bod dyfais amheus wedi cael ei darganfod.

Fe wnaeth Heddlu De Cymru gau un ardal o gwmpas Heol Tai Mawr, yn ardal Gellideg y dref.

Cafodd yr awdurdodau eu galw yno ychydig wedi 1:00yh brynhawn Sadwrn.

Roedd ffyrdd o gwmpas yr ardal hefyd wedi eu cau a'r trigolion yn aros yng nghanolfan hamdden Aberfan.

Cafodd arbenigwyr difa bomiau eu hanfon i'r ardal.