Rhybudd am law a gwyntoedd cryfion yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai glaw trwm achosi llifogydd ar gyfer yn rhannau o ogledd Cymru ddydd Sul a dydd Llun.
Maen nhw wedi cyhoeddi rhybudd melyn i bobl yn ardaloedd Gwynedd a Chonwy fod yn ymwybodol tan fore Llun.
Gallai cymaint ag 80mm (3 modfedd) o law ddisgyn ar y bryniau.
Mae disgwyl hefyd gwyntoedd cryfion, gyda phosibilrwydd y bydd y gwynt yn cyrraedd 60 milltir yr awr ar yr arfordir neu ar fryniau a hyd yn oed 70 milltir yr awr mewn rhai lleoedd.
Ar Bont Britannia, rhwng Ynys Môn a Bangor, mae cyfyngiad o 30 milltir yr awr o achos y gwynt.
Daw'r rhybudd diweddaraf wedi i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi bod Cymru wedi cael ei gaeaf gwlypaf ers 1910.
Dyma'r flwyddyn y dechreuon nhw fesur faint o law oedd yn disgyn.
Yn ôl eu ffigyrau nhw, mae 690mm (dros 2 droeddfed) o law wedi cwympo yn y tri mis diwethaf.
Y swm cyffredin fel arfer yn ystod y gaeaf yng Nghymru ydy 434mm, sef tua 17 modfedd.
Straeon perthnasol
- 9 Chwefror 2014
- 7 Chwefror 2014
- 6 Chwefror 2014