BBC Cymru Fyw

Ewro 2016: Y grwpiau wedi eu dewis

Published
image copyrightGetty Images
image captionMae'r Alban a Gweriniaeth Iwerddon wedi ei rhoi yn yr un grŵp
Bydd Cymru yn wynebu Bosnia a Herzegovina, Israel, Gwlad Belg, Cyprus ac Andorra yn rowndiau rhagbrofol cystadleuaeth Euro 2016.
Cafodd yr enwau eu tynnu o'r het mewn seremoni yn Nice, Ffrainc, am 11:00yb ein hamser ni.
Mae'r Alban a Gweriniaeth Iwerddon yn wynebu ei gilydd ar ôl cael eu rhoi yn yr un grŵp. Mi fydd y ddau dîm hefyd yn chwarae yn erbyn Gwlad Pwyl, Yr Almaen, Georgia a Gibraltar. Dyma yw un o'r grwpiau anoddaf.
Y Swistir, Estonia, Lithuania, Slofenia a San Marino yw'r timau sydd yn yr un grŵp â Lloegr. Mae Gogledd Iwerddon yng ngrŵp F sydd yn cynnwys Groeg, Hwngari, Romania, y Ffindir ac Ynysoedd Ffaro.
Mae'r drefn o gymhwyso ar gyfer y rowndiau terfynol yn Ffrainc yn 2016 yn wahanol iawn i'r cystadlaethau diweddar gan ei bod bellach wedi ehangu i gynnwys 24 o dimau yn y rowndiau terfynol.
Fe fydd naw o grwpiau yn y rowndiau rhagbrofol gydag wyth grŵp o chwe thîm ac un grŵp o bum tîm.

24 tîm

Bydd y timau sy'n gorffen yn gyntaf ac ail ymhob grŵp (18 o dimau) yn mynd yn syth i'r rowndiau terfynol, ynghyd â'r tîm yn y trydydd safle gyda'r record orau yn y gemau rhagbrofol.
Bydd yr wyth tîm arall i orffen yn drydydd yn mynd i gemau ail-gyfle er mwyn gweld pwy fydd yn cipio'r pedwar lle arall i wneud cyfanswm o 24 tîm yn Euro 2016.
Gan mai nhw sy'n cynnal y gystadleuaeth, mae Ffrainc yn gymwys yn syth, ond fe fyddan nhw'n chwarae yn erbyn timau yn y grŵp o bump ar ddyddiadau'r gemau rhagbrofol er mwyn eu bod yn cael chwarae teg o ran paratoi am y gystadleuaeth.
Mae'r timau i bob grŵp wedi dod o botiau sy'n seiliedig ar restr detholion UEFA, y corff sy'n rheoli pêl-droed yn Ewrop.
Bydd Gibraltar yn ymddangos yn y gystadleuaeth am y tro cyntaf, ond mi benderfynodd pwyllgor UEFA na fyddan nhw'n cael bod yn yr un grŵp â Sbaen am resymau gwleidyddol. Mi ddaethon nhw i'r un casgliad hefyd gydag Armenia ac Azerbaijan.
Y grwpiau ar gyfer rowndiau rhagbrofol cystadleuaeth Euro 2016 yw:
Grŵp A: Yr Iseldiroedd, Twrci, Kazakstan, Latfia, Gwlad yr Iâ, Y Weriniaeth Siec.
Grŵp B: Bosnia Herzegovina, Israel, Gwlad Belg, Cyprus, Andorra, Cymru.
Grŵp C: Sbaen, Wcrain, Belarws, Slofacia, FYR Macedonia, Lwcsembwrg.
Grŵp D: Yr Almaen, Gweriniaeth Iwerddon, Pwyl, Yr Alban, Georgia, Gibraltar.
Grŵp E: Lloegr, San Marino, Estonia, Swistir, Slofenia, Lithuania.
Grŵp F: Groeg, Hwngari, Romania, Ffindir, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd Ffaro.
Grŵp G: Rwsia, Sweden, Awstria, Montenegro, Moldova, Liechtenstein.
Grŵp H: Yr Eidal, Croatia, Norwy, Bwlgaria, Malta, Azerbaijan.
Grŵp I: Armenia, Albania, Serbia, Denmarc, Portiwgal.
Bydd y gemau yn cychwyn 7 Medi 2014 ac yn para tan 13 Hydref 2015.
Amserlen gemau Cymru yw:
9 Medi 2014- 20:45 Andorra v Cymru
10 Hydref 2014- 20:45 Cymru v Bosnia Herzegovina
13 Hydref 2014- 20:45 Cymru v Cyprus
16 Tachwedd 2014- 18:00 Gwlad Belg v Cymru
28 Mawrth 2015- 20:45 Israel v Cymru
12 Mehefin 2015- 20:45 Cymru v Gwlad Belg
3 Medi 2015- 20:45 Cyprus v Cymru
6 Medi 2015- 18:00 Cymru v Israel
10 Hydref 2015- 20:45 Bosnia Herzegovina v Cymru
13 Hydref 2015- 20:45 Cymru v Andorra

Straeon perthnasol

  • Euro 2016: Yr enwau o'r het