Canolfan hamdden: Ymchwilio i dân

  • Cyhoeddwyd
Canolfan Hamdden Penarth
Disgrifiad o’r llun,
Roedd 50 o bobl wedi gorfod gadael y ganolfan tua 5.15 brynhawn Sul wedi i dân ddechrau yn y sawna

Mae Gwasanaethau Tân y De yn dychwelyd i Ganolfan Hamdden Penarth yn Cogan fore Llun i ymchwilio i dân ar y safle.

Roedd 50 o bobl wedi gorfod gadael y safle ddydd Sul wedi i dân gynnau yn y sawna.

Fe gafodd y criwiau tân eu galw i'r ganolfan hamdden yn Cogan tua 5.15 brynhawn Sul.

Roedd yn rhaid i nofwyr adael y pwll tra bod 35 o swyddogion yn ceisio diffodd y tân.

Fe adawodd y gwasanaeth tân y safle tua 9 o'r gloch y nos ac fe fyddan nhw'n dychwelyd fore Llun i ddechrau ar eu hymchwiliad.

Roedd y swyddogion tân yn methu dweud beth oedd wedi achosi'r tân na faint o ddifrod oedd wedi'i achosi.

Dywedodd maer Penarth, Neil Thomas, wrth raglen Good Morning Wales BBC Cymru fore Llun mai'r gobaith yw ailagor y ganolfan cyn gynted â phosib gan bod y tân wedi'i gyfyngu i ardal y sawna.

Roedd gwaith atgyweirio wedi bod yn cael ei gynnal yn y ganolfan dros y misoedd diwethaf, meddai Mr Thomas.

Dywedodd y bydd yn rhaid i'r swyddogion asesu'r difrod yng ngolau dydd er mwyn gweld pa mor sydyn gall y lle ail agor.

Tyst yn diffodd y fflamau

Fe geisiodd un tyst, John O'Connell, fynd ati i ddiffodd y tân ei hun ond bu'n rhaid iddo symud yn ôl pan y lledaenodd y fflamau.

"Fe geision ni daflu dŵr drosto ond fe aeth y cyfan allan o reolaeth ac fe adawson ni", meddai.

Roedd wedi bod yn y sawna gyda'i ffrind, Ashley Jones, a ddywedodd: "Roedden ni yn y jacuzzi ar y pryd ac fe edrychodd un o'r bechgyn i mewn i'r sawna a dweud 'dydy hynna ddim yn iawn, nac ydi?'

"Ac yna fe aeth y cyfan yn fflamau."

Bydd y swyddogion tân yn dychwelyd i'r ganolfan hamdden am 10 o'r gloch fore Llun.