Dinbych yn gwrthod uniad â Chonwy
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi dweud na fydden nhw'n cytuno i uno'n wirfoddol gyda Chyngor Sir Conwy.
Roedd y cynghorwyr wedi bod yn cwrdd i drafod eu hymateb i awgrymiadau'r Adroddiad Williams i uno'r cynghorau sir.
Mae'r Comisiwn ar Lywodraethu a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus wedi argymell bod Cyngor Sir Ddinbych yn uno gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Fe gytunodd y cynghorwyr hefyd petai uno gorfodol rhwng y ddwy sir, na fyddai hynny'n digwydd cyn etholiadau nesaf Llywodraeth Cymru yn 2016.
Fe fyddai hyn, mewn gwirionedd, yn golygu na fyddai unrhyw uno am o leiaf bedair i bum mlynedd.
Maen nhw hefyd am annog Llywodraeth Cymru i ymateb yn gadarnhaol ac ar frys i argymhellion yr adroddiad ar wella arweinyddiaeth a pherfformiad, a symleiddio trefniadau ariannu yn y sector cyhoeddus.
Wrth aros am unrhyw gytundeb, maen nhw'n dweud eu bod am ganolbwyntio ar geisio cynnal y prif wasanaethau i drigolion tra'n rheoli'r toriadau angenrheidiol.
Blaenoriaethau
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Evans OBE, Arweinydd Sir Ddinbych, bod y cyngor wedi cael amser i ystyried argymhellion yr adroddiad
"Mae'r Cyngor wedi datgelu ei barn yn y gorffennol y dylai'r sector cyhoeddus ganolbwyntio ei ymdrechion ar wella arweinyddiaeth, diwylliant a pherfformiad yn hytrach na dargyfeirio ei sylw ar ad-drefnu gwasanaethau cyhoeddus ar raddfa fawr.
"Nid yw'r farn honno wedi newid, ac er y byddwn yn gwneud ein teimladau'n hysbys i Lywodraeth Cymru, dim ond amser a ddengys beth fydd y canlyniad."
Dywedodd Mohammed Mehmet, Prif Weithredwr Sir Ddinbych: "Rydym wedi penderfynu peidio ag uno'n wirfoddol gan y credwn nad yw cydweithio gwirfoddol ar raddfa fawr wedi gweithio yn y gorffennol ac nid oes hyder y bydd yn gweithio yn y dyfodol.
"Mae llawer o ansicrwydd ynghylch a fydd y cynigion hyn yn digwydd mewn gwirionedd ac os byddant, pryd y bydd y newidiadau'n cael eu rhoi ar waith.
"Nid yw ansicrwydd o'r fath yn dda ar gyfer y sector cyhoeddus a byddai'n llawer gwell cyfeirio'r amser a'r ymdrech sy'n gysylltiedig â pharatoi ar gyfer uno, a allai ddigwydd ai peidio, at gyflawni ein blaenoriaethau. "
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2012