Iawndal am arestio dynes ar gam

  • Cyhoeddwyd
Kirsty RobinsonFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Fe dreuliodd Kirsty Robinson chwe awr yn y ddalfa wedi i'w chyn-bartner ymosod arni.

Mae dynes ifanc wedi derbyn dros £2,000 o iawndal gan Heddlu Gwent am gael ei harestio ar gam am chwe awr ar ôl gofyn am gymorth gyda chamdrin yn y cartre'.

Roedd Kirsty Robinson, 26, wedi ffonio'r heddlu pan ymosododd partner arni am 4:00yb.

Cafodd gwin coch ei daflu drosti ac fe gafodd ei tharo ar ei phen.

Ond cafodd y fam i un ei harestio pan gyrhaeddodd yr heddlu gan eu bod wedi arogli gwin arni.

Yn hytrach na derbyn cefnogaeth fel dioddefwr, fe gafodd ei harestio, ynghyd â'i chyn bartner oedd wedi'i chamdrin.

Dywedodd: " Fe alwais i'r heddlu am help ac fe gefais i fy nhrin fel troseddwr.

"Pan gyrhaeddodd yr heddlu, dywedodd fy nghyn bartner fy mod i wedi'i daro fo ac fe gymrodd yr heddlu ei air. Dywedon nhw fod arogl alcohol arna' i, ro'n i'n gwaedu ac roedden nhw'n fy nghymryd i mewn.

"Roedd gen i gywilydd a ro'n i wedi drysu."

Galwad 999

Fe enillodd achos sifil yn erbyn Heddlu Gwent ac fe dderbyniodd £2,350 o iawndal.

Fe glywodd y Barnwr, Patrick Curran, sut roedd Heddlu Gwent wedi derbyn galwad 999 lle'r oedd y ferch yn esbonio sut roedd dyn wedi'i tharo a thaflu gwin dros ei phen.

Ond fe arestiodd swyddogion Kirsty a'i chyn bartner yn sgil diffyg tystion annibynnol.

Dywedodd Ms Robinson: "Wrth iddyn nhw ddarllen fy hawliau, ro'n i yn fy nagrau.

"Fe gefais fy nghadw mewn cell am chwe awr, gyda gwin drosta' i gyd ac yn gwaedu.

"Dyma oedd pwynt isaf fy mywyd. Roedd y ffordd cefais fy nhrin wedi torri 'nghalon."

Fe enillodd Ms Robinson, o Bilgwenlli, Casnewydd, yr iawndal wedi dros bedair blynedd o frwydro amdano.

'Profiad ofnus'

Meddai: "Roeddwn i wedi bod i fedydd drwy'r dydd lle roeddwn i'n fam fedydd. Fe gefais i fy niod olaf am 11:00yh ac yna fe ddigwyddodd hyn tua 4 neu 5 y bore.

"Fe gymrwyd DNA gen i. Doeddwn i erioed wedi bod mewn cell o'r blaen ac roedd o'n brofiad ofnus."

Fe gafodd ei rhyddhau yn hwyrach heb gyhuddiad.

Fe gafodd ei chyn bartner ddedfryd o 20 wythnos wedi'i ohirio am yr ymosodiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gwent: "Tra bod Heddlu Gwent yn siomedig, mae'n derbyn penderfyniad y llys yn yr achos hwn.

"Roedd y swyddog wedi ymateb yn ddiffuant ac yn briodol i'r hyn roedd hi'n credu oedd yn gywir ac yn iawn o ran yr holl amgylchiadau.

"Roedd yn rhaid i'r swyddogion ymateb yn gyflym mewn sefyllfa heriol lle'r oedd y rhai oedd yn bresennol wedi yfed alcohol a sawl honiad o ymosod yn cael eu taflu yn ôl ac ymlaen, a dim tystion annibynnol yno. "