Cwmni datblygu aps o Gaernarfon ar restr fer

  • Cyhoeddwyd
Ap BwsisitFfynhonnell y llun, Geosho
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r ap Bwsiti ar gyfer defnyddwyr bysiau

Mae cwmni Cymraeg sydd yn datblygu aps a meddalwedd ar gyfer ffonau symudol a thabledi cyfrifiadurol ar restr fer gwobrau cynllun Smart UK.

Cwmni Geosho o Gaernarfon sy'n clywed ddydd Mawrth a yw'r ap Bwsiti yn llwyddo yng nghynhadledd Cyngres y Byd Symudol ('Mobile World Congress') yn Barcelona.

Mae'r ap, cynllun peilot ar y cyd â Chyngor Powys, wedi cael ei ddatblygu i hwyluso'r gwaith o ddod o hyd i fysiau, gan ddilyn trywydd bysiau ar eu taith.

Gobaith y cwmni ydi datblygu'r ap i'w ddefnyddio mewn ardaloedd eraill o Gymru yn y dyfodol.

'Cyfle gwych'

Yn ôl Paul Sandham, sylfaenydd cwmni Geosho, mae'r ap ar gyfer aelodau'r cyhoedd a hefyd ar gyfer cynghorau a chwmniau teithio sydd am ddarganfod ble mae'r galw mwyaf am eu gwasanaethau.

Fe ddywedodd: 'Mae modd i gynghorau a chwmnïau gynllunio a deall mwy am y lleoliadau lle mae pobl yn aros am fysiau.

"I'r cyhoedd mae'r ap yn cynnig gwybodaeth yn effeithiol a syml iawn - ac yn gallu rhybuddio defnyddwyr a fydd oedi ar eu taith.'

Yn ôl Mr Sandham, mae bod ar y rhestr fer yn Barcelona yn brofiad da iawn, yn gyfle gwych i'r cwmni wneud cysylltiadau gyda chwmnïau datblygu aps o'r Unol Daleithiau a thu hwnt.

Er fod meithrin cysylltiadau rhyngwladol yn bwysig, mae'n credu fod ei gwmni yn y man perffaith yng Nghaernarfon gan fod nifer fawr o gwmnïau datblygu technoleg newydd yn yr ardal.

'Lle delfrydol'

''Mae'r ardal yn 'chydig bach o 'silicon roundabout' - yn glwstwr o gwmniau technolegol. Mae na nifer fawr o gwmnïau meddalwedd fel ni yn ardal Caernarfon a Bangor - rhyw 250 o ddatblygwyr unigol a chwmniau i gyd.

"Ac mae'n lle delfrydol gan fod y brifysgol ym Mangor mor agos, gyda myfyrwyr a staff sydd yn barod iawn i gynnig cymorth i gwmnïau, ac mae nifer fawr o gwmnïau yn datblygu meddalwedd yn yr ardal yma''.

Mae wyth o gwmnïau o Gymru yn arddangos eu meddalwedd yn y gynhadledd yn Barcelona, fel rhan o ddirprwyaeth gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Gweinidog yr Economi Edwina Hart o Lywodraeth Cymru: "Cyngres y Byd Symudol yw un o brif ddigwyddiadau'r byd technoleg symudol ac mae'n cynnig cyfle gwych i gwmnïau Cymreig hyrwyddo eu cynhyrchion a'u gwasanaethau i gynulleidfa ryngwladol.

"Mae'n galluogi Llywodraeth Cymru i dynnu sylw at allu ac arbenigedd cwmnïau Cymreig.

"Rwy'n falch iawn ein bod yn gallu eu cynorthwyo i fod yn rhan o'r arddangosfa hon."