Wrecsam yn ffarwelio â Morrell
- Cyhoeddwyd

Mae Andy Morrell wedi rhoi'r gorau i'w swydd fel rheolwr-chwaraewr Wrecsam wedi bron i dair blwyddyn wrth y llyw.
Roedd wedi bod yn rheolwr ar y clwb ers 2011, gan brofi cryn lwyddiant wrth i Wrecsam guro Tlws yr FA yn Wembley.
Doedd y tîm ddim yn gwneud cystal y tymor hwn, a dywedodd Morrell ar ôl colliyr wythnos ddiwethaf ei fod yn pryderu am ei ddyfodol gyda'r clwb.
Roedd y canlyniad yn eu gadael yn 13eg yn y gynghrair, 10 pwynt i ffwrdd o'r gemau ail gyfle.
'Parch'
Dywedodd Morrell ar wefan Wrecsam: "Rwy'n credu y bydd o fudd i Glwb Pêl-droed Wrecsam a minnau i wneud y newid rŵan, fel y gallwn ni gyd gynllunio at y dyfodol gyda sicrwydd.
"Rwy'n siomedig gyda sut mae'r tymor yma wedi mynd, a doedd dim oeddwn i eisiau ei wneud fwy nag arwain y clwb rwy'n ei garu i'r gynghrair bêl-droed, lle dylai fod.
"Ond rwy'n falch o'r hyn rwyf wedi ei gyflawni dros y ddwy flwyddyn ddiwethaf a bydd gweld 20,000 o gefnogwyr Wrecsam yn dathlu gyda mi wrth i mi ddal Tlws yr FA yn byw'n hir yn fy nghof.
"Yn ystod fy amser yma rwyf wedi cael fy nhrin gyda pharch gan y bwrdd a hoffwn ddiolch iddyn nhw ac i'r cefnogwr am eu cefnogaeth, fel chwaraewr ac fel rheolwr.
"Hoffwn ddiolch hefyd i'r chwaraewyr a'r staff eraill am eu gwaith caled a'u cefnogaeth drwy gydol fy nghyfnod yma, ac rwy'n dymuno pob lwc iddyn nhw at y dyfodol."
Mae Wrecsam yn teithio i Luton nos Fawrth.
Bydd y rheolwr cynorthwyol Billy Barr yn cymryd yr awenau dros dro, gyda chefnogaeth Michael Oakes a gweddill y staff.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2013