Yr Alban: Olew yn lle'r bunt
- Cyhoeddwyd

Mae cabinet Alex Salmond a chabinet David Cameron wedi cynnal cyfarfodydd yn ardal Aberdeen ddydd Llun.
Y bunt ac aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd oedd prif bynciau trafod y refferendwm dros yr wythnosau diwethaf ond mae'r sylw'n troi at ddyfodol diwydiant olew'r Alban.
Mae Mr Salmond wedi dadlau y bydd llywodraeth Alban annibynnol yn gallu cynnig sefydlogrwydd i'r diwydiant, yr hyn sydd ddim yn digwydd o dan reolaeth San Steffan.
Ond dywedodd Ed Davey, Gweinidog Ynni Llywodraeth y Deyrnas Unedig, y byddai economi Alban annibynnol yn fregus oherwydd gorddibyniaeth ar olew.
Fe fyddai newidiadau pris a'r gostyngiad yng nghyflenwad cronfeydd Môr y Gogledd, meddai, yn cael effaith ddifrifol ar sefyllfa ariannol y wlad.
Adroddiad
Roedd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal wrth i adroddiad Syr Ian Wood am ddyfodol diwydiant olew'r wlad gael ei gyhoeddi.
Cafodd yr olew cyntaf o Fôr y Gogledd ei dynnu yn 1975 ac ers hynny mae cyfanswm o ryw 40 biliwn o gasgenni wedi gadael y rigiau.
Er bod yr olew sydd ar ôl yn anoddach ei echdynnu erbyn hyn mae 'na lawer o gyflenwad ar ôl - gwerth rhwng 15 a 24 biliwn o gasgenni sy'n cyfateb i hyd at 40 blynedd ychwanegol o gynhyrchu,
Yn ogystal mae'n bosib bod mwy o olew yn gorwedd o dan y môr mewn ardal i'r gorllewin o Ynysoedd y Shetland.
Mae adroddiad Syr Ian Wood yn dweud nad oes gan yr Adran Ynni a Newid Hinsawdd ddigon o arian nac adnoddau er mwyn rheoli busnes sy'n mynd yn fwy cymhleth.
Hefyd mae'n dweud bod 38% yn llai o gynhyrchedd dros y tair blynedd ddiwethaf wedi costio £6 biliwn i'r Trysorlys o ran incwm trethi a methu cyfleoedd bod hynny'n golygu y bydd methu mwy o gyfleoedd yn fwy tebygol.
Aeth Mr Cameron i lwyfan olew cyn cynnal ei gyfarfod bum milltir i ffwrdd o un Mr Salmond.
"Mae stori'r olew yn un llwyddiannus i'r deyrnas a chan ei bod yn fwy anodd echdynnu'r olew y deyrnas ddylai gefnogi'r diwydiant.
"Yn sicr, mae ein teulu o genhedloedd ar ei ennill gyda'n gilydd.
"Mae'n werth gwrando ar farn Bob Dudley o gwmni BP sy'n sôn yn bositif am gyfraniad y deyrnas at y diwydiant."
'Yn fregus'
Dywedodd Mr Davey: "Byddai'r Alban yn ddibynnol iawn ar incwm o olew a nwy ac yn wyneb pris olew mor ansefydlog a llai o refeniw o Fôr y Gogledd, byddai hynny'n golygu y byddai cyllid a gwariant cyhoeddus yr Alban yn fregus iawn.
"Yr hyn rydym yn ei ddangos heddiw yn Adolygiad Wood yw y bydd San Steffan yn rheoli'r olew a'r cronfeydd nwy cronfeydd wrth gefn gan y DU yn llawer mwy effeithiol a bod hynny'n wych ar gyfer yr Alban."
Ychwanegodd bod yr Alban wedi elwa ar olew Môr y Gogledd a bod y wlad yn gwneud yn "dda iawn" fel rhan o'r DU.
Mae Mr Salmond, oedd yn cynnal cyfarfod yn Porthlethen, wedi dweud bod hon yn "ddadl hurt".
'Cronfa nwy'
"Yr unig beth sydd angen i ni wneud ... yw edrych dros Fôr y Gogledd i gyfeiriad Norwy," meddai, "ac yno mae gwlad sy'n llawer llai na'r Alban, yn rhedeg yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel y diwydiant olew a nwy mwyaf llwyddiannus yn y byd."
Dywedodd fod angen "dilyn patrwm Norwy nid San Steffan" oherwydd "fe allwn ni reoli'r diwydiant olew a nwy yn well."
Mae eisoes wedi benthyg un syniad oddi wrth Norwy, creu "cronfa nwy" gyda 10% o'r arian.
Byddai'r arian yn cael ei fuddsoddi mewn gwahanol fentrau er mwyn ceisio creu cyfoeth ychwanegol.
Mae'r arian sy'n cael ei greu gan Gronfa Nwy Norwy'n cael ei roi at gronfa bensiwn anferth y wlad.
Ar raglen Today ar Radio 4 dywedodd Mr Salmond ei fod yn economegydd yn arbenigo mewn olew pan oedd Mr Cameron yn "chwarae o gwmpas ar gaeau Eton".
Yn dryllio
Nid pawb sy'n credu ei fod yn beth da sicrhau bod holl olew Môr y Gogledd yn cael ei echdynnu.
Mae Patrick Harvie, sy'n cynrychioli'r Blaid Werdd yn Senedd yr Alban, yn dweud bod y ddadl yn dryllio honiad llywodraeth San Steffan mai hi yw'r llywodraeth "wyrddaf erioed", a bod Llywodraeth yr Alban yn tanseilio eu targedau newid hinsawdd.
"Mae David Cameron ac Alex Salmond yn ceisio am y gorau i ddenu'r diwydiant tanwydd ffosil," meddai.
"Mae hyn yn ddigon i'ch gwneud chi'n sâl."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd8 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2013