Carwyn Jones yn yr Unol Daleithiau
- Cyhoeddwyd

Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn teithio i'r Unol Daleithiau ddydd Mawrth.
Fe fydd Mr Jones yn cwrdd ag arweinwyr busnes i geisio eu denu i wneud busnes, buddsoddi ac ymweld â Chymru.
Bydd y daith pedwar diwrnod o hyd yn cynnwys cyfarfodydd yn Washington DC ac Efrog Newydd.
Dywedodd y Prif Weinidog ei fod o'n "siwr" y byddai cyhoeddiadau arwyddocaol yn ystod ei ymweliad.
Wedi iddo gyrraedd, bydd Mr Jones yn annerch pwyllgor o 200 o bobl yn y Gyngres yn Washington - sydd wedi ei drefnu gan aelodau o'r Senedd a Thŷ'r Cynrychiolwyr - er mwyn codi proffil Cymru yn UDA.
Hwb i dwristiaeth?
Fe fydd ail hanner y daith yn Efrog Newydd yn canolbwyntio mwy ar ddiwylliant. Mae gobaith y bydd canmlwyddiant geni Dylan Thomas yn hwb i dwristiaeth, gan mai yn Efrog Newydd y bu farw'r bardd o Dalacharn yn 1953.
Mae teithiau tramor llywodraeth Cymru wedi eu beirniadu gan y gwrthbleidiau yn y gorffennol.
Eto'r tro hwn, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn holi beth yw gwerth y daith?
Dywedodd William Graham AC, llefarydd busnes y blaid: "Mae Gogledd America yn bartner masnach i Gymru ac mae gan wella'r bartneriaeth honno'r potensial i helpu'r economi Gymreig i ffynnu.
"Mae angen i'r Prif Weinidog fod yn ofalus o honiadau ei fod o'n teithio o amgylch y byd ar bwrs y trethdalwr, a sicrhau bod y trip hwn yn gynhyrchiol ac o fudd i fusnesau Cymreig.
"Mae tripiau masnach yn ffordd bwysig o ddenu cytundebau proffidiol i fusnesau Cymreig, ond 'dy ni angen gweld tystiolaeth...
"'Dy ni'n dymuno pob lwc i'r Prif Weinidog ar ei drip, ac yn ei annog i gymryd pob cyfle i roi llwyfan i'r economi Gymreig, yn cynnwys be all ein diwydiant twristiaeth gynnig i deithwyr Americanaidd."