Comisiynydd y Gymraeg: Swyddi'n mynd?
- Cyhoeddwyd

Mae pob un aelod o staff swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi cael cynnig ymadael yn wirfoddol o'u swyddi, er mwyn caniatau i'r Comisiynydd weithredu strwythur newydd.
Oddeutu 45 o bobl sy'n gweithio yn swyddfa'r Comisiynydd.
Mae yna bryderon bod Meri Huws yn bwriadu canolbwyntio'n fwy ar reoleiddio yn hytrach na hybu a hwyluso defnydd o'r Gymraeg.
Yn ôl mudiad Dyfodol i'r Iaith, mae pwy sydd â chyfrifoldeb dros hybu'r Gymraeg yn amwys ers diwedd Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Dywedodd Heini Gruffydd o'r mudiad ei fod o wedi clywed sibrydion am y perygl mai staff â gofal am hybu a hwyluso'r Gymraeg fydd yn colli swyddi.
'Cyfnod o ansefydlogrwydd'
Meddai: "Mae'n amlwg yn gyfnod o ansefydlogrwydd o ran staff ac o ran safonau hefyd.
"Mae wedi bod yn flwyddyn ansicr. Ry'n ni'n edrych ymlaen at weld sefydlogi ac yn awyddus i weld gweithredu.
"Ma 'na aneglurdeb wedi bod o'r dechrau ynglŷn â phwy sy' fod i wneud beth. Rwy'n credu'n bod ni'n dal i fod mewn rhyw fath o wactod ers i'r bwrdd (Bwrdd yr Iaith Gymraeg) gael ei ddiddymu."
Dywedodd llefarydd ar ran Meri Huws: "Sefydlwyd Comisiynydd y Gymraeg ar 1 Ebrill 2012. Bryd hynny etifeddwyd strwythur a gytunwyd rhwng swyddogion Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Cymru.
'Angen adolygu'
"Wrth i'r sefydliad ddatblygu ac wrth i bwerau statudol newydd ddod i rym, cred y Comisiynydd bod angen adolygu'r strwythur gwreiddiol, gan greu strwythur sydd yn fwy addas ar gyfer ymateb i swyddogaethau Comisiynydd y Gymraeg o dan Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
"Cyn bwrw mlaen gyda'r cynllun ailstrwythuro, mae'r Comisiynydd, yn dilyn trafodaeth gyda'r Undeb, wedi cyhoeddi cynllun ymadael gwirfoddol er mwyn galluogi'r rheiny sydd yn wirioneddol dymuno gadael cyflogaeth Comisiynydd y Gymraeg i wneud hynny lle bo'n ymarferol bosibl."