Apêl am dystion wedi damwain beic modur yn Abergele
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn ymchwilio wedi i feiciwr modur gael anafiadau difrifol mewn damwain yn Abergele.
Cafodd y dyn 36 oed ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd, Bangor, wedi'r digwyddiad brynhawn dydd Llun.
Fe ddigwyddodd y ddamwain ar ffordd y B5113 yn Nhrofarth.
Roedd y dyn yn gyrru beic modur coch Ducati.
Doedd yna'r un cerbyd arall yn rhan o'r digwyddiad.
Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod wrth i'r heddlu ymchwilio i'r digwyddiad.
Mae swyddogion yn apelio ar i dystion a welodd y ddamwain i gysylltu â nhw.