40% ddim yn gwybod am y mesur organau

  • Cyhoeddwyd
Organau
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r llywodraeth yn dweud y bydd y newid yn achub bywydau

Dyw dros 40% o ddinasyddion Cymru ddim yn gwybod am y newid fydd yn digwydd i'r system roi organau yng Nghymru ar 1 Rhagfyr, 2015.

Bryd hynny fe fydd y gyfraith yn newid, a bydd caniatâd ar gyfer rhoi organau'n cael ei ystyried i fod wedi ei roi os nad yw unigolyn wedi nodi fel arall.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau i bawb fod yn ymwybodol o'r newid cyn iddo ddod i rym, ac mae'r Mesur Rhoi Organau'n ymrwymo'r llywodraeth i hyrwyddo'r newid.

Er fod ymwybyddiaeth o'r newid wedi codi'n ddiweddar - o 57% ym Mehefin 2013 i 59% ym mis Tachwedd 2013 - mae peth ffordd i fynd nes gall y llywodraeth fod yn siŵr fod pawb yng Nghymru yn gwybod be ddigwyddith i'w horganau os ydynt yn marw.

Mae gan weinidogion y llywodraeth gyfrifoldeb i "hysbysu'r cyhoedd am yr amgylchiadau lle yr ystyrir bod cydsyniad wedi ei roi i weithgareddau trawsblannu yn absenoldeb cydsyniad datganedig".

Er mwyn gwneud hyn maen nhw wedi lansio gwefan, a bydd mwy o waith yn cael ei wneud dros y ddwy flwyddyn nesaf.

'Mwy o waith i'w wneud'

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford: "Mae'n wych gweld bod ymwybyddiaeth o'r system feddal o optio allan wedi cynyddu eto fyth ar draws Cymru gyfan. Er dweud hynny, mae mwy o waith i'w wneud ond nawr bod yr ymgyrch ymwybyddiaeth gyhoeddus wedi cychwyn, gobeithiwn weld cynnydd eto yn y ffigyrau dros amser.

"Mae rhoi organau'n arbed bywydau, a gyda nifer uchel o fywydau pobl 'ar gloc' yn aros am roddwr organau, rydyn ni'n credu y bydd y ddeddfwriaeth newydd yn helpu i gynyddu nifer y bobl sydd â'r potensial i allu cyfrannu at y gronfa rhoi organau.

"Daw'r ddeddf newydd i rym ar 1 Rhagfyr 2015. Ein gwaith ni yw sicrhau bod aelodau'r cyhoedd yn deall y newidiadau hyn yn llwyr a beth fydd eu dewisiadau sydd ganddynt.

"Byddwn yn parhau i gynnal yr arolygon hyn o ran codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am y ddeddf newydd ar roi organau, a defnyddio'r canlyniadau i lywio'r modd y byddwn yn mynd ati i gyfathrebu."

Mae'r data diweddaraf hefyd yn dangos bod gostyngiad wedi bod yn y ganran o bobl ddywedodd y byddan nhw'n optio allan, o 20% i 15%.

Yn ogystal bu cwymp yn y ganran oedd o blaid y newid - o 61% i 57% - ond roedd y ffigwr yn parhau i fod yn llawer uwch na'r ganran oedd yn erbyn y newid, oedd yn 16%.