Grant 'yn helpu' cyn weithwyr Remploy i gael swyddi newydd
- Cyhoeddwyd

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi helpu dros 200 o gyn weithwyr Remploy ddod o hyd i swyddi newydd, wedi i'r ffatrïoedd gau ddwy flynedd yn ôl.
Cafodd y ffatrïoedd eu sefydlu er mwyn cynnig swyddi i bobl gydag anableddau ond penderfynodd Llywodraeth y DU gau'r naw ffatri yng Nghymru, a oedd yn cyflogi tua 400 o bobl.
Dadl y llywodraeth oedd y gallai'r arian ar gyfer gwasanaethau cyflogi anabledd gael ei wario'n fwy effeithlon.
Ym mis Gorffennaf 2012, sefydlodd Llywodraeth Cymru grant, gwerth £2m, er mwyn helpu cyflogwyr i gynnig gwaith i weithwyr anabl a chymwys Remploy.
Yn ôl ffigyrau diweddara' Llywodraeth Cymru, mae'r grant wedi galluogi 221 o gyn weithwyr Remploy i ddod o hyd i swyddi newydd.
Mae'r panel sy'n penderfynu pwy sy'n derbyn y grant hefyd wedi cymeradwyo 173 o swyddi eraill.
Mentrau newydd
Roedd gan Remploy ffatrïoedd yn Aberdâr, Abertyleri, Pen-y-bont ar Ogwr, Croespenmaen, Merthyr Tudful, Abertawe, Wrecsam, Baglan a'r Porth yn y Rhondda.
Mae llawer o swyddi newydd wedi'u creu ym Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe a'r Porth.
Yn ogystal, mae'r cyn weithwyr eu hunain wedi sefydlu nifer o fentrau newydd, gan gynnwys Accommodation Furniture Solutions Limited yn Abertawe, Ministry of Furniture ym Maglan, a nifer o fentrau bach eraill.
Dywedodd y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, Jeff Cuthbert: "Mae'n wych ein bod wedi gallu cynorthwyo 221 o gyn weithwyr Remploy i ganfod swyddi o fewn gwahanol fusnesau, o gwmnïau newydd i fentrau bach.
"Mae hyn yn tystio i ysbryd staff Remploy a hefyd ymrwymiad Llywodraeth Cymru.
"Mae cyflogwyr wedi canmol ein grant cymorth i gyflogwyr gan fod y broses yn syml, yn gyflym ac yn gwbl glir. Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo cyn weithwyr eraill Remploy i gael swyddi addas sy'n rhoi boddhad iddynt."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd14 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd28 Awst 2013
- Cyhoeddwyd6 Mai 2013