£360,000 ar gyfer adfywio Glyn-nedd

  • Cyhoeddwyd
Glyn-nedd
Disgrifiad o’r llun,
Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ym mis Mawrth

Bydd tre' yn y Cymoedd yn cael ei hadfywio oherwydd grant o £360,000.

Mae'r gwaith yn cynnwys ailwampio Sgwâr Glyn-nedd a gwella maes parcio.

Daw'r arian o Fenter Ardal Adnewyddu Cymoedd y Gorllewin Llywodraeth Cymru.

Bydd Grŵp Adfywio Glyn-nedd yn cydlynu'r holl waith ac yn cynnwys aelodau'r cyngor sir, Cyngor Tre' Glyn-nedd, Cyngor Cymuned Blaengwrach a chynrychiolwyr y sector gwirfoddol a phreifat.

Dywedodd Gareth Nutt, Pennaeth Adfywio ac Eiddo Castell-nedd Port Talbot: "Yn strategol, mae hon yn dre' bwysig yng Nghwm Nedd.

"Mae'r cyngor yn ymroddeddig i gymunedau'r Cymoedd a byddwn ni'n gwneud ein gorau i gael mwy o arian ar gyfer prosiectau eraill y rhaglen adfywio...

"Y nod yw gwireddu potensial y rhan hon o'r fwrdeistref sirol."

Mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ym mis Mawrth.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol