Y Gleision yn taclo unigrwydd dynion

  • Cyhoeddwyd
Dyn oedrannusFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd 58% o'r dynion dros 75 oed sy'n teimlo'n unig yn sgîl colli partner eu bod wedi colli eu bywyd cymdeithasol

Mae tîm rygbi Gleision Caerdydd ymysg nifer o glybiau ar draws Prydain sy'n ceisio helpu elusen i daclo unigrwydd ymyag dynion.

Yn ôl ymchwil gan elusen y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, mae 70% o ddynion sy'n byw ar eu pennau eu hunain ym Mhrydain (140,000) yn teimlo'n unig am fod eu partner wedi marw.

Mae'r ymchwil hefyd yn dangos bod 43,000 o ddynion dros 75 oed yn cyfaddef eu bod yn teimlo'n unig ac yn ynysig o hyd, a bod dros draean o'r dynion dros 75 oed sy'n byw ar eu pennau eu hunain (34%) yn treulio 12 o oriau effro'r dydd, ar eu pennau eu hunain.

Fe gafodd 300 o ddynion eu holi ar gyfer yr arolwg a'i bwrpas oedd gweld i ba raddau roedd teimladau o unigrwydd yn dilyn colli rhywun agos yn cael effaith ar fywydau dynion hŷn.

Dywedodd 58% o'r dynion dros 75 oed sy'n teimlo'n unig yn sgîl colli partner eu bod wedi colli eu bywyd cymdeithasol; cyfaddefodd 43% eu bod wedi colli'u hyder, ac roedd 34% yn teimlo'n anghyfforddus bellach yn mynd allan ac yn cymdeithasu.

Gan bod chwarter o'r dynion oedrannus hyn yn gweld colli cael rhywun i rannu diddordebau, ac yn cyfaddef y buasai'n braf cael cwmni i fynychu digwyddiad chwaraeon neu fynd i'r dafarn i wylio gêm, mae'r elusen wedi sichrau cymorth clybiau rygbi ar draws Prydain i helpu recriwtio mwy o wirfoddolwyr gwrywaidd.

Mae'r ymgyrch yn tynnu sylw at y nifer o swyddi sydd angen i'r gwirfoddolwyr gwrywaidd eu llenwi, o fod yn yrrwyr i gadw cwmni i rywun mewn tafarn neu fynd â rhywun hŷn i apwyntiad doctor.

Clybiau rygbi'n annog mwy o wirfoddolwyr

Mae'r elusen yn cyd-weithio gyda chlybiau ar draws Prydain gan gynnwys y Gleision, Gwyddelod Llundain, Leicester Tigers, Castleford Tigers, Bradford Bulls, Salford Red Devils, Huddersfield Giants a chlwb St Helens.

Mae'r clybiau yn cefnogi'r ymgyrch drwy wahodd dynion hŷn o'r ardal lleol i fynychu gêm gyda gwirfoddolwyr. Mae nhw hefyd yn cynnal digwyddiadau recriwtio er mwyn annog eu cefnogwyr i wirfoddoli am awr yn unig yr wythnos er mwyn gwneud gwahaniaeth i fywyd dyn oedrannus yn eu hardal.

Dywedodd Josh Turnbull, un o chwaraewyr y Gleision: "Mae gan chwaraeon ffordd dda o dynnu pobl at ei gilydd mewn cwmnïaeth ac i rannu'r angerdd.

"Mae nifer o ddynion oedrannus yn colli allan ar gefnogi eu tîm lleol gan nad oes ganddyn nhw gwmni i ddod i'r gêm neu wyneb cyfeillgar i siarad am eu diddordebau.

"Mi fyswn i'n annog dynion i wirfoddoli i helpu dynion hŷn ar draws Prydain ailddarganfod eu cariad at chwaraeon."

Dywedodd prif weithredwr y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, David McCullough: "Rydym i gyd yn ymwybodol bod cannoedd ar filoedd o bobl oedrannus yn dioddef o unigrwydd ym Mhrydain ond dyw nifer o ddynion sy'n wynebu unigrwydd ddim yn gofyn am help.

"Wrth i ni fynd yn hŷn a cholli'n ffrindiau a'n teuluoedd, rydym yn aml yn colli cysylltiad gyda'r gweithgareddau yna oedd yn arfer rhoi pleser i ni, fel cefnogi'r tîm rygbi lleol, mynd am dro gyda ffrind neu fynd am fwyd neu beint i'r dafarn.

"Rydym yn gwybod, o siarad gyda'r dynion oedrannus sy'n defnyddio ein gwasanaethau, eu bod yn mwynhau cymryd rhan yn y gweithgareddau yma gyda dynion eraill, felly mae angen mwy o wirfoddolwyr gwrywaidd i'n galluogi ni fedru helpu'r rheiny sydd ddim yn gallu mwynhau eu diddordebau mwyach ac yn teimlo effaith unigrwydd."

Wedi'i lansio yn 1938 fel Gwasanaethau Gwirfoddol y Gwragedd, fe ddenodd y sefydlydd, y Fonesig Reading, dros 1m o wirfoddolwyr benywaidd i gefnogi'r ffrynt gartref adeg y rhyfel.

Erbyn hyn, gyda'r enw wedi'i newid, mae'r elusen yn helpu dros 100,000 o bobl oedrannus.

Mae nhw am weld mwy o ddynion yn gwirfoddoli; er bod dros 40,000 o wirfoddolwyr, mae llai nag 20% ohonyn nhw yn ddynion.