Gwerthiant tai ar gynnydd?

  • Cyhoeddwyd
Peter Alan
Disgrifiad o’r llun,
Mae cwmni Peter Alan yn dweud mai hon oedd eu blwyddyn fwyaf llwyddiannus ers 2006 a'r ail orau yn eu holl gyfnod dros 48 mlynedd

Mae ffigyrau gan un o werthwyr tai de Cymru yn dangos cynnydd o 17% yn ngwerthiant tai 2013.

Mae cwmni Peter Alan yn dweud mai hon oedd eu blwyddyn fwyaf llwyddiannus ers 2006 a'r ail orau yn eu holl gyfnod dros 48 mlynedd.

Roedd gwerthiant tai y cwmni, sy'n rhan o Gymdeithas Adeiladu'r Principality, wedi cynyddu 17% ers 2012, yn rhannol oherwydd 64% o gynnydd yng ngwerthiant eu hadran dai neilltuol, pa black.

Roedd y gwerthiant hwn hefyd wedi derbyn hwb yn sgîl cynnydd o 62% mewn tai rhent dros y flwyddyn, ac roedd hynny yn sgîl meddu ar ddwy asiantaeth rentu leol, Thomas George a Mead.

Roedd 10% o gynnydd yn nifer eu staff hefyd, gyda chyfanswm o 230 erbyn hyn yn gweithio yn eu 26 o ganghennau. Dyma'r asiantaeth dai gyda'r nifer fwyaf o ganghennau yng Nghymru.

Wrth drafod y canlyniadau, dywedodd Andrew Barry, Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni: "Dyma ydi ail flwyddyn fwyaf llwyddiannus Peter Alan yn ei holl hanes dros 48 mlynedd, a'n canlyniadau mwyaf trawiadol ers 2006 pan roedd y farchnad dai ar ei anterth.

"Mae'r cynnydd yn destament i hyder cynyddol y prynwr yn y farchnad dai."

19% o gynnydd yn ôl y Syrfewyr

Ym mis Ionawr, cyhoeddodd y Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig bod 19% o syrfewyr siartredig yng Nghymru wedi cofnodi cynnydd ym mhrisiau tai yn y mis blaenorol.

Roedd y nifer o dai a werthwyd gan bob syrfewr dros gyfnod y Nadolig yn 22 tŷ yr un ar gyfartaledd. Roedd hyn deirgwaith yn fwy na phan roedd y farchnad dai ar ei isaf yn Rhagfyr 2008.

Roedd y Sefydliad hefyd yn dweud nad oes digon o dai yn dod ar y farchnad i ddiwallu'r galw, ac felly mae'r prisiau yn parhau i gynyddu.