Pedwar cyngor yn trafod cyllidebau
- Cyhoeddwyd

Mi fydd mwy o gynghorau yn trafod eu cyllidebau am y flwyddyn ariannol i ddod.
Mae cynghorau siroedd Wrecsam, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Chaerffili yn wynebu penderfyniadau anodd.
Mae pob un yn wynebu toriadau mawr yn eu cyllidebau.
Merthyr i arbed £15.3m
Mae Cyngor Merthyr Tudful angen gwneud arbedion o £15.3miliwn mewn pedair blynedd.
Yn gynharach fis Chwefror, bu 400 o bobl yn protestio yn y dref yn erbyn cynlluniau'r cyngor i dorri gwasanaethau.
Trefnwyd y brotest gan grŵp o ddisgyblion o Ysgol Gyfun Rhydywaun am eu bod yn pryderu am gynlluniau'r cyngor i gael gwared ar ddarparu cludiant am ddim i ddisgyblion chweched dosbarth.
Mae cynlluniau'r cyngor hefyd yn cynnwys cau canolfan i'r henoed, cau canolfannau ieuenctid rhan amser a chwtogi ar oriau llyfrgelloedd er mwyn arbed arian.
Roedd y cyngor yn bwriadu trafod y cynnig i roi'r gorau i dalu am drafnidiaeth ar gyfer disgyblion dros 16, ond mae'r penderfyniad hwnnw wedi cael ei ohirio am y tro.
Rhondda Cynon Taf i arbed £70m
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn ceisio gwneud arbedion o £70 miliwn dros y pedair blynedd nesaf.
Un o'r cynigion yw rhoi'r gorau i ariannu canolfan gelfyddydau'r Miwni ym Mhontypridd.
Fe gafodd deiseb ag arni 4,000 o enwau ei chyflwyno i Gyngor Rhondda Cynon Taf ddydd Llun yn gwrthwynebu'r bwriad.
Wrecsam am arbed £45m
Yn Wrecsam, mae'r cyngor hefyd yn wynebu toriadau.
Mae nhw'n ceisio arbed £45m i gyd dros y pum mlynedd nesaf.
Ymhlith eu cynigion dadleuol mae eu penderfyniad i gau Canolfan Hamdden Plas Madoc yn y dref.
Mae'r penderfyniad hwn wedi cael ei alw i mewn ac fe fydd yn cael ei adolygu gan y Pwyllgor Archwiliadau Cymunedol brynhawn Mercher cyn i'r cyngor llawn ei drafod yn y nos.
Trafod yng Nghaerffili
Yn ogystal, mae disgwyl i Gyngor Caerffili gyfarfod i drafod eu cyllideb, ond does dim disgwyl pleidlais ar y cynigion.
Mae Caerffili'n wynebu toriad o oddeutu 3% neu £8.46m mewn nawdd gan lywodraeth Cymru yn y flwyddyn ariannol nesa'.
Straeon perthnasol
- 1 Chwefror 2014
- 24 Chwefror 2014
- 21 Chwefror 2014