Luton 5 - 0 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae pethau yn mynd o ddrwg i waeth i Wrecsam yng ngêm gyntaf Billy Barr fel rheolwr dros dro y Dreigiau.
Dydd Llun, gadawodd Andy Morell ei swydd fel rheolwr, ac heno, nos Fawrth, fe roddwyd cweir iddynt gan dîm Luton sydd ar frig y tabl Skrill.
Ar ôl 17 munud, roedd y gêm drosodd fel gornest wedi i Luke Gutteridge sgorio dwy gôl o amgylch un gan Andre Grey.
Yn ddiweddarach yn yr hanner cyntaf, aeth Luton ymhellach ar y blaen gyda Paul Benson yn sgorio cyn yr egwyl.
Yn yr ail hanner, roedd pethau yn ddistawach gyda'r tîm cartref yn sgorio un gôl arall.
Aeth Jake Howells ymlaen i sgorio cic o'r smotyn, wedi iddo gael ei ffowlio gan Mark Carrington.