Cwest Rohan Rhodes: Rheithfarn naratif

  • Cyhoeddwyd
Rohan Rhodes
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Rohan Rhodes yn 36 diwrnod oed

Mae'r crwner yn achos marwolaeth y babi Rohan Rhodes wedi cofnodi rheithfarn naratif.

Dywedodd Maria Voisin fod "cyfleoedd wedi cael eu colli" i roi gofal yn gynt i'r babi oedd wedi cael ei eni 15 wythnos yn gynnar.

Roedd angen profion nwy gwaed deirgwaith ar Fedi 29, meddai, wedi iddo gael ei dynnu oddi ar y peiriant anadlu, pan ofynnodd y meddyg am gynnal prawf, ac ar ôl iddo gael ei roi'n ôl ar y peiriant.

Er nad oes modd gwybod beth fyddai canlyniad y profion, mae'n bosib y bydden nhw wedi arwain at Rohan yn derbyn gofal meddygol yn gynharach.

15 wythnos

Cafodd Rohan o Arberth, Sir Benfro, ei eni yn Ysbyty Singleton Abertawe 15 wythnos yn gynnar ac yn pwyso llai na chilogram.

Cafodd driniaeth am bedair wythnos ac roedd yn "gwneud yn dda," yn ôl tystiolaeth a roddwyd i'r crwner.

Wedyn cafodd ei symud i Ysbyty St Michaels ym Mryste ar gyfer llawdriniaeth oherwydd bod dwythell ei galon yn parhau i fod yn agored.

Clywodd y cwest yn Llys Crwner Flax Bourton ym Mryste fod Rohan wedi cael ei dynnu o'r peiriant anadlu gan nyrs ar Fedi 29 heb yn wybod i'r meddyg oedd yn edrych ar ei ôl.

Fe roddwyd ef yn ôl ar y peiriant yn hwyrach y diwrnod hwnnw ond roedd ei gyflwr wedi gwaethygu.

Bu farw Rohan y diwrnod canlynol.

Ymddiheuro

Dywedodd y crwner fod Rohan wedi marw o haint ar y stumog, niwmonia a chyflyron eraill, oedd yn ganlyniad iddo gael ei eni'n hynod o gynnar.

Mae Bryony Strachan o Ymddiriedolaeth Iechyd Prifysgol Ysbytai Bryste wedi ymddiheuro oherwydd y methiant i gynnal profion ar y babi.

" ... mae'n ddrwg iawn gennym fod y cyfleon wedi eu methu deirgwaith pan oedd cyflwr difrifol iawn Rohan yn cael ei fonitro yn yr uned.

"Erbyn hyn, mae trefn sy'n golygu profion nwy gwaed ar fabi ar beiriant anadlu ac rydym yn gweithredu system gwirio diogelwch lle mae nyrsys a meddygon yn rhannu gwybodaeth."