Hen fomiau ar wely môr gogledd Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae hen fomiau wedi'u darganfod ar wely'r môr o fewn safle adeiladu fferm wynt Gwynt y Môr ym Mae Lerpwl.
Mae'n debyg bod y ffrwydron yn dyddio'n ôl o gyfnod yr Ail Rhyfel Byd.
Rwan, mae ardal waharddedig mewn lle tra bod cwmni RWE yn ceisio'u symud.
Parhau mae'r gwaith adeiladu ar y safle ond mae llongau yn gorfod cadw i ffwrdd o'r ardal waharddedig sy'n 250 metr o amgylch y safle.
Mae'r cwmni'n gweithio gyda nifer o gontractwyr ac ymgynghorwyr i benderfynu ar y ffordd saffaf i symud y ffrwydron.
Mae ceisiadau ar gyfer y trwyddedau priodol eisoes wedi cael eu cyflwyno.
Dydy hi ddim yn anghyffredin i fomiau sydd heb ffrwydro ddod i'r golwg ar wely'r môr.
Mae'r gwaith o adeiladu Gwynt y Môr oddi ar arfordir y Rhyl ac Abergele wedi dechrau ers 2012.
Mae disgwyl i'r fferm wynt fod wedi'i chwblhau yn ystod 2014.
Fe fydd 160 o dyrbinau gwynt yn cynhyrchu digon o drydan ar gyfer 400,000 o gartrefi.