Burt Bacharach yn perfformio yng Nghŵyl Jazz Aberhonddu
- Cyhoeddwyd

Y seren Burt Bacharach, sydd wedi ennill chwe gwobr Grammy, fydd un o'r prif berfformwyr yng Nghŵyl Jazz Aberhonddu.
Mae'r wŷl yn dathlu ei phenblwydd yn 30 eleni.
Mae Tom Jones, Dusty Springfield ac Aretha Franklin ymlith y cantorion sydd wedi perfformio ei ganeuon yn y gorffennol.
Yr artistiaid eraill fydd ar y llwyfan y tro yma yw Laura Mvula, Gregory Porter, Jean Toussaint a Loose Tubes. Bydd Warren Vache hefyd yn chwarae. Mi ddaeth o i berfformio yn yr wŷl gyntaf yn 1984.
Y tro yma mi fydd man cyfarfod Captain's Walk yn cael ei ddefnyddio eto fel rhan o'r digwyddiad. Roedd y lleoliad yn cael ei ddefnyddio yn nyddiau cynnar yr wŷl sydd yn digwydd yn ystod yr haf.
Mae mwy na 70 o ganeuon Burt Bacharach wedi ymddangos ym 40 uchaf y siartiau Prydeinig.
Ymhlith y caneuon sydd wedi gyrraedd rhif un yn y siartiau yw Anyone Who Had a Heart gafodd ei chanu gan Cilla Black yn 1964, (There's) Always Something There To Remind Me gafodd ei pherfformio gan Sandie Shaw 1964 a I'll Never Fall In Love Again yn 1969. Bobbie Gentry wnaeth ganu honno.
Y gantores Dionne Warwick oedd y prif act y llynedd ac mae hi wedi recordio rhai o ganeuon mwyaf enwog y gŵr 85 oed gan gynnwys Walk On By a Do You Know The Way To San Jose.
Dywedodd Cyfarwyddwr Orchard sydd yn trefnu'r wŷl yn 2014, Pablo Janczur:
"Mae'r momentwm wedi bod yn cynyddu ar gyfer y dathliad 30 mlynedd eleni ers i ni gymryd yr awenau yn 2012.
"Mae'n gyffrous iawn gallu cyhoeddi rhai artistiaid rhyngwladol mawr iawn, lle chwarae 'newydd' oedd yn arfer bod yn hen ffefryn a gobeithio rhoi blas i'r gynulleidfa amrywiol jazz o'r hyn sydd yn eu disgwyl ym mis Awst."
Mae'r wŷl yn cael ei chynnal rhwng y 7 a'r 10 o Awst.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd13 Awst 2012